Home Page

Blwyddyn 3 & 4 / Year 3 & 4 - Miss S John

 

Croeso i dudalen Blwyddyn 3/4.

 

Dilynwch ni ar 'Twitter' / Follow us on Twitter 

 

@YGGBYMSJohn

 

 

Rydym ni fel dosbarth ac athrawes newydd ym mlwyddyn 3/4 yn edrych ymlaen at flwyddyn weithgar, llawn hwyl. Ein Thema y tymor yma yw 'Asiantau Teithio'. Byddwn yn dysgu llawer iawn am ein milltir sgwâr, Abertawe ac hefyd am wledydd ar draws y byd yn cynnwys India. Bydd disgyblion yn dysgu sut i fynd ati i drefnu gwyliau, yn ogystal a beth sy'n effeithio ar dwristiaeth. 

 

 

We as a new class and Miss John as a new teacher of year 3/4 we are very much looking forward to a very productive yet fun filled academic year. Our theme this term is 'Travel Agents'. We will be learning lots about our locality, and various countries around the world, including India. Pupils will have the opportunity to learn how to book a holiday, as well as factors affecting worldwide tourism. 

 

 

 

 

Esgyrn, Gwaed a darnau gwaedlyd

 

Ein thema newydd y tymor yma yw 'Esgyrn, Gwaed a darnau gwaedlyd'. Yn ystod yr amser yma byddwn yn dysgu llawer am y corff dynol a'i brif organau, yn ogystal â chynnal nifer o arbrofion gwyddonol, yn cynnwys mesur sut mae ymarfer corff yn effeithio ar gyfradd curiad y galon a iechyd. Rydym hefyd yn gobeithio cwrdd â Mistar Ffrancenstein ei hunain! url.png 

 

Our new theme this term is 'Bones, Blood and Gory bits'. During this time we will be learning about the human body and anatomy as well as conducting several scientific experiments, measuring the effect of physical activity on heart rate and health. We are also hoping to meet Mr frankenstein himself! 

Dyma ni'n arslwyi ac astudio calon. Here we are observing and studying a heart.

Rydym ni wedi bod yn brysur yn mesur cyfradd curiad y galon yn ystod ymarfer corff! We have been investigating the effects of physical activity on heart rate!

Diwrnod arbennig yng ngweithdy y corff Techniquest! An excellent day in the Techniquest body workshop!

Dathlu Diwrnod Roald Dahl

Gwersi Gwyddoniaeth Gwyllt Wythnosol gyda 'Radical Rhys'

Dyma rhai o ddisgyblion ein dosbarth ar y daith gerdded noddedig!

Ar ôl ymweliad cyffrous cyntaf i'r llyfrgell, rydym wrth ein boddau yn darllen ein Llyfrau newydd! After an exciting first visit to the library we are all enjoying our new books!

07.10.16 Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Gwenu / Everyone's happy celebrating World Smile Day 😁

Gwers gwyddoniaeth gwych eto! Dysgu am amsugno ac adlewyrchu 💎🔮 Another exciting science lesson learning about reflection and absorption!

Am ffordd arbennig i orffen gwersi Gwyddoniaeth Gwyllt gan arbrofi â Nitrogen hylifol! ❄️💨⚗️

Dyma ni'n cefnogi Aled Hughes o Radio Cymru ar ei daith seiclo o Abertawe i Fangor i godi arian i blant mewn angen. Da iawn Aled 🚴🏻🏆

Fel rhan o'm thema Asiantau Teithio buom ni'n dysgu am fwydydd draddodiadol Tsieina ac yn defnyddio ein synhwyrau i'w disgrifio 👁👃🏼✋🏼

Buom ni'n holi cwestiynau gyda partner i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ein gilydd 🗣 Yn ogystal â darllen a threfnu llythyr i ddysgu am nodweddion llythyr da 👍🏼