Home Page

Blwyddyn 4 / Year 4 – Miss L Williams

Sesiwn ffitrwydd gyda Lee Trundle!

Thema Newydd - Esgyrn, Gwaed a Darnau Gwaedlyd

New Topic - Blood, Bones and Gory Bits

Gwaith Celf yr Urdd (Gwaith cartref hanner tymor) Urdd Art Work Competition (Half term homework)

Mae 1000 gram yn gwneud cilogram

Mae 1000 mililitr yn gwneud 1 litr

 

1000g = 1kg

1000ml = 1L

Ffaith Rhifedd yr Wythnos - 06.10.14

 

Mae 10 milimedr yn gwneud 1 centimedr

Mae 100 centimedr yn gwneud 1 medr

Mae 1000 medr yn gwneud 1 cilomedr

 

10mm = 1cm

100cm = 1m

1000m = 1km

Cofiwch ddilyn ein dosbarth ni ar 'Trydar'!

Remember to follow our class on 'Twitter'!

YGGBYMLWilliams

Blas ar denis bwrdd! 

Our table tennis taster session!

 

Hwyl Diwrnod Eco

Cawsom brynhawn wrth ein bodd yn ailgylchu hen fotymau a darnau jigso a'u troi yn addurniadau pert. Bu rhai ohonom yn mwynhau peintio cerrig hefyd!

We had lots of fun recycling buttons and jigsaw pieces and turning them into decorations. Some of us painted some stones too!

Ffaith Rhifedd yr Wythnos - Medi 15

Er mwyn adio 9, rydym yn adio 10, yna tynnu 1.

Yn yr un ffordd, i adio 19, rydym yn adio 20 ac yn tynnu 1; i adio 29, rydym yn adio 30 ac yn tynnu 1 ayyb.

Beth sy'n digwydd pan fyddwn yn adio 90? 190? Ymchwiliwch!

 

In order to add 9, we add 10 and subtract 1.

Likewise, to add 19, we add 20 and subtract 1; to add 29, we add 30 and subtract 1 etc.

What happens when we add 90? 190? Investigate!

Idiom / Dihareb yr Wythnos

Dyfal Donc a Dyrr y Garreg

Os ydych yn parhau i weithio, rydych yn mynd i lwyddo yn y diwedd!

If you continue to work at something, eventually you will succeed!

Wythnos Gyffrous

Roedd hi'n wythnos gyffrous iawn wythnos ddiwethaf gydag ymweliad a Chastell Ystumllwynarth ac ymweliad gan XL Wales. Buom yn creu castell gyda phont godi!

Last week was an exciting week with a visit to Oystermouth Castle and a chance to bulid a castle with a drawbridge with Pete from XL Wales.

Llongyfarchiadau!

Cawsom etholiadau y Cyngor Ysgol a'r Eco-Gyngor yr wythnos hon ac fel dosbarth, pleidleision ni dros Dafydd a Keira i'r Cyngor Ysgol a William a Harry WJ i'r Eco Gyngor. Llongyfarchiadau i'r pedwar ohonynt a da iawn i bawb fuodd yn ddigon dewr i ddod allan o flaen y dosbarth i egluro pa rinweddau sydd ganddynt i fod yn aelodau o'r cynghorau. Gwnaeth bob un ymdrech arbennig. Da iawn, chi!

We had our class election for the School Council and Eco-Council this week, and as a class, we voted for Dafydd and Keira for the School Council and William and Harry WJ for the Eco-Council. Congratulations to all four and well done everyone who was brave enough to come out and tell the class what attributes they have in order to be members of the councils. Everyone made a great effort. Well done!

Croeso i Flwyddyn Pedwar - Dosbarth Miss Williams

Rydym yn mynd i fod yn astudio 'Cestyll a Dreigiau' yr hanner tymor hwn ac mae pawb yn edrych ymlaen at ymweld â Chastell Ystumllwynarth Ddydd Mawrth nesaf.

Bydd y thema yn canolbwyntio ar storïau yn ymwneud ag Oes y Tywysogion, hanes cestyll Cymru a gwahanol rannau'r castell.

We shall be studying 'Castles and Dragons' this half term and everyone is looking forward to visiting Oystermouth Castle next Tuesday. The theme will concentrate on stories based around the Age of the Princes, the history of Wales' castles and the different parts of the castle. 

 

Da iawn, bawb sydd wedi dod a'u bocsys esgidiau - maen nhw'n bert iawn ac yn llawn trysorau! Byddwn yn gwrando ar gyflwyniadau pawb yn ystod yr wythnos. Well done to everyone who has brought in a shoebox - they look very attractive and are real treasure troves. Over the week, we shall be listening to everyone's presentations. 

Ffaith Rhifedd yr Wythnos - 1/9/14

Mae adio a thynnu yn gwrthdroi ei gilydd. Rydych chi'n cael 4 sym am bris 1!

Addition and subtraction are the inverse of one another. You get 4 sums for the price of 1!

e.e. 3 + 34 = 37

wedyn 34 + 3 = 37, 37 - 3 = 34 a 37 - 34 = 3

Idiom yr Wythnos

Gwneud eich gorau glas!

Mae hwn yn golygu y gorau sy'n bosib i chi wneud. Mae'n bwysig i bawb wneud ei orau glas - mae'r ymdrech yn bwysicach na'r canlyniad. 

Etholiadau'r Cyngor Ysgol a'r Eco Gyngor

Yr wythnos hon, byddwn yn ethol dau aelod o'r dosbarth i fod yn aelodau o'r Cyngor Ysgol a dau arall i fod yn aelodau o'r Eco Gyngor. Cofiwch ddweud wrth bawb pam y dylent bleidleiso i chi. 

School Council and Eco Council Ballots

This week, we shall be voting for two members of our class to be on the School Council and another two to be on the Eco Council. Remember to tell everyone why they should vote for you.