Home Page

Blwyddyn 4 / Year 4 – Miss L Williams

Beth ddysgon ni am forgrug yr wythnos yma?

 

trim.46E6E4F0-6535-4EDA-8EC4-BD27CA6FF437.MOV

Still image for this video

Ein map meddwl am forgrug.

Ein cyflwyniad am forgrug-Alys ac Elin

Still image for this video

Cyflwyniad Aidan a Joseff

Still image for this video

Ein map meddwl

Map meddwl Sofia a Iola

Map meddwl Berry a Seren

Map meddwl Roxy a Corinna

Ffaith rhifedd yr wythnos

 

 

Gwir neu anwir?

 

Os ydych chi'n lluosi odrif gydag odrif mae'r ateb yn odrif bob tro!

e.e. 7 x 3 = 21

 

Beth am luosi dau eilrif gyda'u gilydd?

e.e. 8 x 4 = 24

 

Beth am luosi eilrif gydag odrif?

 

Arbrofwch...

 

 

Ffaith Rhifedd yr Wythnos!

 

Mae tablau yn gallu cael eu gosod mewn i deuluoedd. 

 

  • Tablau  1, 2 a 4
  • Tablau 1, 10 a 5
  • Tablau 1, 3 a 6

 

Ffaith Rhifedd Mai 19

Mae rhifau sydd yn nhabl tri yn hawdd eu hadnabod. Os ydych chi'n adio digidau unrhyw rhif ac yn cael ateb sydd ym nhabl tri, mae'r rhif yn nhabl tri.

e.e. 5674

5 + 6 + 7 + 4 = 22

Dydy 22 ddim yn nhabl 3, felly dydy 5674 ddim yn nhabl tri.

 

4563

4 + 5 + 6 + 3 = 18

Mae 18 yn lluosrif o 3, felly mae 4563 yn lluosirf o 3.

 

The numbers which are multiples of 3 have digits which add up to a number which is a multiple of 3. In the above example the sum of the digits of 5674 is 22, therefore 5674 is not a multiple of 3. The sum of the digits of 4563 is 18 which is a multiple of 3, therefore 4563 is a multiple of 3.

Rydym wedi cael hanner tymor prysur iawn hyd yn hyn gyda pharatoi ar gyfer y profion llythrennedd a rhifedd. Nawr bod y gwaith hwnnw ar ben, rydym yn dechrau ymlacio eto yn y dosbarth ac yn mwynhau ymchwilio i wahanol amserau mewn gwahanol ddinasoedd ar draws y byd.

Rhagflas yr Hanner Tymor / First Half of Summer Term 2014 Taster

 

Gorymdaith Bonedau Pasg/ Easter Bonnet Parade

7/4/14

Ffaith Rhifedd yr Wythnos

Os ydych am rannu gyda 5, rhannwch gyda 10 a dyblwch!

To divide by 5, divide by 10 and double!

e.e. 50 / 5 = 50 / 10 x 2 = 10

 

Idiom yr Wythnos

A'i wynt yn ei ddwrn

e.e.

Ar ol sylweddoli ei bod yn hwyr, rhedodd Eleri yr holl ffordd i'r parti a chyrhaeddodd a'i gwynt yn ei dwrn.

 

 

31/03/14

Ffaith Rhifedd yr Wythnos

Os ydych am haneru rhif 3 digid, hanerwch y cannoedd yn gyntaf, wedyn y degau, wedyn yr unedau. Nawr adiwch y tri rhif.

e.e. hanner 246 = 100 + 20 + 3 = 123

hanner 348 = 150 + 20 + 4 = 174

hanner 753 = 350 + 25 + 1.5 = 376.5

 

Ymweliad â'r Ffatri Siocled

Cawsom lawer iawn o hwyl yn gweld sut maen nhw'n gwneud siocledi. Cawsom gyfle i flasu llawer o'r siocled ar y daith. Roedd hi'n daith flasus dros ben!

 

24.03.14

Idiom yr Wythnos

Yn bendramwnwgl

Cwympodd y llyfrau allan o'r bag yn bendramwnwgl i'r llawr.

Sawl brawddeg fedrwch chi eu defnyddio sy'n cynnwys yr idiom 'yn bendramwnwgl'?

Ffaith Rhifedd yr Wythnos

Er mwyn lluosi rhif gyda 10, symudwch y digidau i gyd un cam i'r chwith heb symud y pwynt degol. Os oes gennych fwlch ynh ngholofn yr unedau, rhowch sero yn y bwlch.

To multiply a number by 10, move the digits one place to the left without moving the decimal point. If you have a gap in the units column, put a zero in the gap.

  45 x 10

 450

Idiom yr Wythnos

A'i ben yn ei blu (yn drist ac yn benisel)

Ar ol clywed bod Yr Elyrch wedi colli'r gem 7-0, eisteddodd Gareth yn dawel a'i ben yn ei blu.

 

Sawl gwaith fedrwch chi ddefnyddio hwn mewn brawddeg yr wythnos hon?

Ffaith Rhifedd yr Wythnos

17/3/14

I adio 90, adiwch 100 a thynnwch 10.

To add 90, add 100 and take away 10.

 

Thema Newydd

Ein thema ar gyfer yr hanner tymor hwn fydd Bwydydd Blasus Byd Eang. Byddwn yn edrych ar wahanol wledydd a'r mathau o fwyd y maent yn ei fwyta ynddynt. Bydd cyfle i rieni ddod i flasu'r bwyd a phrynu yn ein caffi ddiwedd y tymor.

 

Our theme for this half term is Global Gourmet. We shall be learning about different foods in different countries and there will be a chance for parents to come and taste the food and buy in our cafe at the end of term.

Ffaith rhifedd yr wythnos - 17/2/14

I luosi â 5, mae angen lluosi â 10 a haneru.

e.e. 46 x 5

= 46 x 10 rhannu â 2

= 460 rhannu â 2

= 230

Cafodd bawb amser wrth eu bodd yn Techniquest Ddydd Iau diwethaf. Roedd arbrofi a darganfod yn llawer iawn o hwyl!

Everyone had a wonderful time in Techniquest on Thursday. Experimenting and discovering was great fun!

Mwynhau yn y Parti Nadolig

 

Dyma rai o'n cardiau Nadolig!

Gallwch luosi 4 drwy dwbli a dwbli eto, e.e.

4 x 3 = 12

Dwbl 3 = 6

Dwbl 6 = 12

 

Beth am geisio lluosi'r rhifau yma gyda 4?

 

5

4

7

9

12

18

22

87

Croeso i Flwyddyn 4 - Dosbarth Miss Williams

Welcome to Year 4 – Miss Williams’ Class

Ein Dosbarth Ni / Our Class

Erbyn hyn, rydym wedi dechrau ymgartrefu yn ein dosbarth ac yn edrych ymlaen at dymor sy’n llawn hwyl a gwaith! Thema yr hanner tymor yw ‘Asiantau Teithio’ a byddwn yn dysgu sut i fynd ati i drefnu gwyliau ac am wahanol wledydd ar draws y byd, yn ogystal â dysgu am ein hardal ni a’r hyn sy’n denu twristiaid yma.

 

Rydym am ddathlu’n hoff lyfrau ac mae rhai plant wedi bod wrthi’n brysur dros y gwyliau yn cyflawni her llyfrgelloedd Abertawe drwy ddarllen chwech llyfr. Rydym yn edrych ymlaen at glywed am hoff storiau a chymeriadau’n gilydd wrth i ni drafod yr hyn sy’n gwneud stori dda!

 

We have all settled well in our class and we are looking forward to a term which is both fun and work filled! Our theme for this half term is ‘Travel Agencies’ and we shall we learning how to arrange a holiday and about contrasting places around the world, as well as our locality and its tourist attractions.

 

We shall be celebrating our favourite books and some children have been busy over the holidays, fulfilling the Libraries Challenge of reading six books over the Summer. We’re looking forward to hearing about one another’s favourite stories and characters and discussing what makes a good story!