Home Page

Dathlu llwyddiant / Celebrating Success Archive: 2014-2015

Mae gan bob plentyn yn Ysgol Gymraeg Bryn y Môr ddawn arbennig, p'un ai yn y byd academaidd, chwaraeon, cerddoriaeth, celfeddydol neu rhyw faes arall. Yn ogystal â phwysleisio hyn ar lawr y dosbarth, mae ein 'Gwasanaeth Gwobrwyo' pob Dydd Gwener yn gyfle i ddathlu'r llwyddiannau hyn hefyd. Dyma i chi rhai o'n llwyddiannau diweddar ni! / Every child at Ysgol Gymraeg Bryn y Môr has a special talent, be it academic, sporting, musical, artistic or in another field. In addition to emphasising this in the classroom, our 'Celebration Assembly' every Friday is an opportunity to celebrate these successes as well. Here are some of our most recent successes!

Sêr yr Wythnos / Stars of the Week 

Yn dilyn enwebiadau gan yr athrawon dosbarth, dyma i chi 'Sêr yr Wythnos' am yr wythnos yn gorffen 10/7/15. Da iawn i chi gyd am eich hymdrechion!

Following nominations from class teachers, here are the 'Stars of the Week' for the week ending 10/7/15. Well done to you all for your efforts!

 

Dosbarth Miss Rh Jones  Bl 5&6 - Cerys & Elin

Dosbarth Mr Rh Jones  Bl 5 - Corrina & Zak

Dosbarth Miss L Williams Bl 4 - Daisy & Katie 

Dosbarth Mr A Morgan Bl 3&4 - Seren & Freya

Dosbarth Mrs K Jones Bl 3 -  Lily H & Dale

Dosbarth Mrs C Williams Bl 2 - Ella & Casey

Dosbarth Miss Rh Owen Bl 1&2 - Ferdi & Mathew

Dosbarth Miss K Griffiths Bl 1 & Derbyn - Kareena & Zane

Dosbarth Mrs R Harris-Jenkins Derbyn -  Imogen & Gwilym

Dosbarth Mrs Rh Atherton Meithrin - ??? & ???

(10/7/15)

Sêr yr wythnos/ Stars of the week 10/7/15

Cymro/Cymraes yr wythnos 10/7/15

Llongyfarchiadau i ddosbarth Derbyn / Bl 1 Miss Griffiths (100%) & dosbarth Bl 4 Miss L Williams (100%) ar ennill y wobr 'Presenoldeb Dosbarth' yr wythnos hon. Da iawn i chi gyd! / Congratulations to both Miss Griffiths' Reception / Yr 1 class (100%) and Miss L Williams' Yr 4 class (100%) on winning the 'Class Attendance' award this week. Well done everyone! (10/7/15)

Gwregys newydd! / A new belt!

Llongyfarchiadau i Oliver (Bl 1) ar ennill ei wregys Ju-jitsu melyn a du yr wythnos hon. Mae Oliver yn brysur iawn yn ymgymryd â nifer o weithgareddau ar ôl ysgol ond yn rhoi 100% i bob un. Edrychwn ymlaen i weld pa liw gwregys bydd nesaf! / Congratulations to Oliver (Yr 1) on being awarded his yellow and black Ju-jitsu belt this week. Oliver takes part in a number of activities after school but gives 100% in each one. We look forward to seeing which colour belt is next!  (3/7/15)   

Adeiladu cestyll tywod! / Building sandcastles!

Llongyfarchiadau i Lola (Bl 2) a'i thîm Afancod ar ennill cystadleuaeth adeiladu cestyll tywod ar y traeth yn ddiweddar. Da iawn ti! / Congratulations to Lola (Yr 2) and her Beaver Scouts team on winning a recent sandcastle building competition on the beach. Well done you!  (3/7/15)   

Nofio fel pysgod! / Swimming like fish!

Mae disgyblion Bryn y Môr wedi bod yn brysur iawn yn y pwll unwaith eto yr wythnos hon, gyda nifer o dystysgrifau yn cael eu cyflwyno yn ein gwasanaeth. Llongyfarchiadau i Megan (Derbyn) ar ei thystysgrif 10m, Oliver (Bl 1) ar ei dystysgrif 400m ac Osian (Bl 2) ar ei dystysgrif Sgiliau Dŵr Gradd 3.  Da iawn i chi gyd! / Bryn y Mor's pupils have been very busy in the pool once again this week. Congratulations to Megan (Reception) on being awarded her 10m certificate, Oliver (Yr 1) on his 400m certificate and Osian (Yr 2) on his Grade 3 Water Skills certificate.  Well done each of you! (3/7/15)

Pencampwyr! / Champions!

Wedi iddo rhannu ei lwyddiant ym Mabolgampau yr Afancod gyda'r ysgol wythnos diwethaf, daeth Alexander (Bl 2) a tharian y tîm i'r ysgol i ddangos i'r disgyblion heddiw. Dyma'r trydydd flwyddyn yn olynol i'r tîm, Rhyddings Park, i gipio'r goron. Da iawn ti Alexander, ac i weddill aelodau'r tîm! / Having shared his recent Beaver Scouts Sports Day success with the school last week, Alexander (Yr 2) brough the team shield in to school to show the pupils today. This is the third year in a row that the Rhyddings Park Beaver group have won the overall award. Well done Alexander and also to all your teamates. Da iawn chi!  (3/7/15) 

Bocsio Cic Campus! / Kick Boxing Braves! 

Llongyfarchiadau i Gwenan (Derbyn) ac Aneurin (Bl 2) ar ennill eu gwregysion bocsio cic du a coch yn ddiweddar. Mae'r ddau yn rhoi o'u gorau glas pob wythnos yn ei gwersi ac yn awyddus i symud ymlaen i'r lefel nesaf yn fuan. Da iawn chi! / Congratulations to Gwenan (Reception) and Aneurin (Yr 2) on being awarded their black and red kickboxing belts recently. Both give of their very best in their club on a weekly basis and are already eager to move on to the next level. Well done both of you!  (26/6/15)

Telynorion talentog! / Harmonious harpists!

Llongyfarchiadau i Anna, Elin & Sian (Bl 5) ar lwyddo yn eu haroliadau telyn Gradd 1 yn ddiweddar. Mae'r dair yn gerddorion talentog ac yn llond haeddu eu llwyddiant yn dilyn oriau o ymarfer. Da iawn chi! / Congratulations to Anna, Elin & Sian (Yr 5) on succeeding in their Grade 1 harp exam recently. All three are talented musicians and deserve their success following many hours of practice. Well done!  (26/6/15)  

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Imogen (Debyn) ar ennill ei thystysgrif 50m yn y pwll nofio yn ddiweddar. Mae 50m yn cryn dipyn o bellter Imogen - da iawn ti a dal ati! / Congratulations to Imogen (Reception) on being awarded her 50m swimming certificate. 50m is quite a distance Imogen - well done you and keep up the hard work!  (26/6/15)

Mabolgampau'r Afancod & Cenawon / Beavers & Cubs' Sports Days

Llongyfarchiadau i Alexander (Bl 2) ar ennill casgliad o fedalau yn ystod mabolgampau yr Afancod wythnos diwethaf. Llwyddodd mewn ystod o gystadlaethau ar y trac ac ar y maes. Llongyfarchiadau hefyd i Harri (Bl 4) ar ennill fedal aur yn ystod mabolgampau'r Cenawon. Mae'r ddau yn aelodau ffyddlon o'u grwpiau ac yn ymfalchio yn eu llwyddinat. Da iawn chi! / Congratulations to Alexander (Yr 2) on winning a collection of medals at last week's Beavers' sports day. He succeeded in a variety of both track and field events. Congratulations also to Harri (Yr 4) on winning a gold medal at the recent Cubs sports day. Both are faithful members of their groups and take great pride in their success. Well done boys!  (26/6/15)  

Llwyddiant Triathlon / Triathlon Success 

Llongyfarchiadau i Gracie a Ria (Bl 3) am gymryd rhan yn Triathlon Iau Caerdydd yn ddiweddar, gyda'r ddwy ohonyn nhw yn llwyddo i nofio, seiclo a rhedeg y cwrs yn llwyddiannus. Da iawn Gracie ar ddod yn ail yn ei chatagori. Tipyn o gamp! Da iawn chi! / Congratulations to both Gracie and Ria (Yr 3) on taking part in the Cardiff Junior Triathlon recently, with both girls successfully swimming, cycling and running the course. Well done Gracie on coming second in her catagory. Quite an achievement! Da iawn chi!  (12/6/15)

Rygbi, Rygbi, Rygbi!

Da iawn Iestyn (Bl 1) ar dderbyn ei fedal rygbi gan Glwb Rygbi Pontardawe am ei ymdrechion ar y cae dros y tymor diwethaf. Cafwyd tymor llwyddiannus iawn ac mae'r tîm cyfan yn edrych ymlaen i'r tymor newydd yn barod. / Well done Iestyn (Yr 1) on receiving his end of season rugby medal from Pontardawe RFC for his efforts on the field this year. It was a very successful season for the team and everyone is already looking forward to the new season.  (12/6/15) 

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Lea (Bl 2) ar ennill ei thystysgrif nofio 75m yr wythnos hon. Mae 75m yn tipyn o bellter, ond yn ôl Lea, doedd e' ddim yn anodd iawn! Da iawn ti a dal ati i ddatblygu dy sgiliau. / Congratulations to Lea (Yr 2) on being awarded her 75m swimming certificate this week. 75m is quite a distance , but according to Lea, it didn't give her any problems at all! Well done and continue to develop those all important skills.  (12/6/15)

Bownsio i lwyddiant! / Bouncing to success!

Llongyfarchiadau i Caitlin (Bl 2) ar lwyddo i gwblhau rhaglen o hyfforddiant trampoline yn ddiweddar. Datblygodd nifer o sgiliau ar y cwrs a mwynheodd y cyfle mas draw. D iawn ti Caitlin! / Congratulations to Caitlin (Yr 2) on successfully completing a trampoline course recently. She developed a number of skills on the course and thoroughly enjoyed the opportunity. Da iawn ti Caitlin!  (12/6/15)

Gŵyl rygbi y Cubs / Cubs rugby festival

Llongyfarchiadau i Steffan & Jake (Bl 4) ar eu llwyddiant diweddar mewn gŵyl rygbi gyda'u grŵp Cubs lleol. Llwyddon nhw i ennill y gystadleuaeth yn dilyn rygbi da ac agored gan bob aelod o'r tîm. Da iawn chi! / Congratulations to both Steffan & Jake (Yr 4) on their success recently at a rugby tournament with their Cubs group. They succeeded in winning the festival with some excellent, expansive rugby being played by the whole team. Well done boys!  (5/6/15)

Chwaraewr y flwyddyn! / Player of the Year!

Llongyfarchiadau i Jac (Bl 5) ar gael ei enwebu yn chwaraewr y flwyddyn gan ei dîm rygbi Dan 10, Clwb Rygbi Waunarlwydd. Mae hi wedi bod yn dymor llwyddiannus iawn i Jac a'i dîm, gyda disgwyliadau uchel am y tymor nesaf. Da iawn Jac! / Congratulations to Jac (Yr 5) on being named player of the year by his rugby team, Waunarlwydd RFC Under 10s. It's been a successful year for both Jac and the team, with high expectations for the coming season. Da iawn Jac!  (5/6/15) 

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Oliver (Bl 1) ar ennill ei dystysgrif sgiliau nofio Gradd 2 am ei ymdrechion yn y pwll yn ddiweddar. Rhaid oedd plymio i'r dŵr, nofio ar ei flaen a'i gefn yn ogystal â pherfformio nifer o sgiliau eraill i ennill y dystysgrif, felly rwyt ti'n llond haeddu'r clod Oliver. Da iawn ti! / Congratulations to Oliver (Yr 1) on being awarded his Grade 2 swimming skills certificate for his efforts in the pool recently. He had to dive into the water, swim on both his front and back and display numerous other skills in order to pass the grade so fully deserves the praise. Well done Oliver!  (5/6/15)

Pysgod Prysur! / Busy Fish!

Mae nifer o ddisgyblion Bryn y Môr wedi bod yn hynod o brysur yn y pwll nofio yn ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr i Rosie (Derbyn) ar ennill ei thystysgrif 5m, Megan (Bl 1) ar ei thystysgrif 100m, Caitlyn (Bl 2) ar ei thystysgrif Sgiliau Dŵr gradd 2 a Jasmine (Bl 1) ar ei thystysgrif Pysgodyn Aur 2. Daliwch ati ferched! / A number of Bryn y Môr pupils have been very busy in the swimming pool recently. Congratulations to Rosie (Reception) on being awarded her 5m certificate, Megan (Yr 1) on her 100m certificate, Caitlyn on her Grade 2 Water Skills certificate and Jasmine on her Grade 2 Goldfish certificate. Keep up the good work and effort girls!  (21/5/15)

Llwyddiant Urdd! / Urdd Success!

Llongyfarchiadau mawr i Erin (Bl 2) ar gipio'r ail safle yn genedlaethol am ei gwaith barddoniaeth dychmygus hyfryd. Llongyafarchiadau mawr hefyd i Elin (Bl 5) ar gipio'r drydydd safle yn genedlaethol gyda'i chyfansoddiad cerddorol creadigol iawn. Mae'r ddwy wedi bod yn brysur iawn yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau'r Urdd ac wedi profi'n llwyddiannus mewn nifer ohonyn nhw. Da iawn i'r ddwy ohonoch chi! / Congratulations to Erin (Yr 2) on claiming second place nationally with her wonderfully imaginative poetry writing. Congartulations also to Elin (Yr 5)  on claiming third place nationally with her creative musical composition. Both pupils have been very busy competing in numerous Urdd competitions and have tasted success in a number of those. Well done both of you!  (14/5/15) 

Pencapwyr Ju-jitsu! / Ju-jitsu champions!

Llongyfarchiadau i Oliver, Alfie a Ferdi (Bl 1) a Lauren (Bl 2) ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth ju-jitsu eu clwb Saru-jitsu yn ddiweddar. Mae'r pedwar yn aelodau ffyddlon o'r clwb ac yn mwynhau her corfforol y gamp. Da iawn i chi gyd! / Congratulations to Oliver, Alfie and Ferdi (Yr 1) and Lauren (Yr 2) on their success at their ju-jitsu club's recent competition. All four are active members of the Saru-jitsu club and enjoy the physical challenges of the sport. Well done all four of you!  (14/5/15)

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Imogen (Derbyn) ar ei llwyddiant diweddar yn ennill ei thystysgrif nofio 25m, Rosie (Bl 1) ar ei thystysgrif 1000m, a Fraser (Bl 2) ar ei dystysgrif 20m. Da iawn chi! Mae'r sgiliau yma yn holl bwysig felly daliwch ati. / Congratulations to Imogen (Reception) on being awarded her 25m certificate, Rosie (Yr 1) on being awarded her 1000m certificate and Fraser (Yr 2) on being awarded his 20m certificate. Well done everyone! These are all important skills so keep up the good work.  (14/5/15)

Llwyddiant Rygbi / Rugby Success

Llongyfarchiadau i Arun (Bl 2) a'i dîm rygbi, Yr Uplands, ar eu perfformiad yng Ngwŷl Rygbi Porth Tywyn dros Wŷl y Banc. Mae criw o chwaraewyr da ar y tîm, a hyfryd yw cael gorffen y tymor ar nodyn uchel. / Congratulations to Arun (Yr 2) and his rugby team, Uplands RFC, on their performance at the Burry Port Junior Rugby Festival over the Bank Holiday. They have a fantastic group of players on the team and what a great way to end the season on a high.  (8/5/15)

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Izabella (Bl 1) ar ennill ei thystysgrif nofio 'Pysgodyn aur - Gradd 2' yn ddiweddar. Mae hi wrth ei bodd yn mynychu ei gwersi wythnosol ac yn edrych ymlaen i ennill ei thystysgrif nesaf yn barod! / Congratulation to Izabella (Yr 1) on being awarded her 'Goldfish - Grade 2' swimming certificate recently. She thoroughly enjoys her weekly lessons and is already looking forward to achieving her next certificate!  (8/5/15)

Myfyriwr y mis! / Student of the month!

Llongyfarchiadau i Sara (Bl 1) ar ennill tlws 'myfyriwr y mis' gyda'i chlwb Saru Jitsu. Mae Sara yn amlwg yn creu argraff bositif iawn ar ei hyfforddwr gyda'i hagwedd a'i hymroddiad. Dal ati! / Congratulations to Sara (Yr 1) on winning the 'student of the month' award in her Saru Jitsu club. Sara has clearly left a positive impression on her coach with her attitude and dedication. Keep up the good work Sara!  (24/4/15)

Llwyddiant Cubs / Cubs success

Llongyfarchiadau i Dylan (Bl 4) ar ennill tarian 'Best 6' ei glwb Cubs lleol. Buodd Dylan yn gweithio gyda grŵp o'i gyfoedion i gwblhau nifer o heriau fel rhan o'r broses. Da iawn ti Dylan! / Congratulations to Dylan (Yr 4) on winning his Cubs group's 'Best 6' shield for completing a number of challenges with a group of his peers. Well done Dylan!  (24/4/15)

Cyrraedd y brig! / Reaching the summit!

Da iawn Mackenzie (Bl 5), Daisy (Bl 4) a Jenson, Mia, Sienna ac Elliot (Bl 3) ar eu llwyddiant diweddar yn cyrraedd  copa Pen y Fan. Gydag uchder o 865m, dydy hynny ddim yn beth hawdd iawn, felly da iawn i chi gyd! / Well done Mackenzie (Yr 5), Daisy (Yr 4) and Jenson, Mia, Sienna and Elliot (Yr 3) on their recent success in reaching the peak of Pen y Fan. With a height of 865m, this is no easy feat so well done all six of you!  (24/4/15) 

Teulu rygbi! / Rugby family!

Llongyfarchiadau i Rhys (Bl 4) a'i chwaer Seren (Bl 2) ar ennill medalau rygbi yn dilyn gwŷl rygbi diweddar. Mae'r ddau yn chware i Glwb Rygbi y Dyfnant, gyda Rhys yn chwarae i'r tîm dan 9 a Seren yn chwarae i'r tîm dan 8. Da iawn i'r ddau ohonoch chi! / Congratulations to both Rhys (Yr 4) and his sister, Seren (Yr 2) on being awarded rugby medals following a recent rugby festival. Both play for Dunvant RFC, with Rhys playing for the under 9s and Seren playing for the under 8s. Well done both!  (17/4/15)

Gwregys diweddaraf! / Latest belt!

Llongyfarchiadau i Ashleigh (Bl 4) ar ennill ei gwregys las, gyda streipen ddu, am ei hymdrechion yn ei chlwb Saru Jitsu. Mae Ashleigh wedi bod yn mynychu'r clwb yn ffyddlon ers peth amser bellach ac yn amlwg yn gwneud yn arbennig o dda. Dal ati Ashleigh! / Congratulatiuons to Ashleigh (Yr 4) on being awarded her blue belt, with a black stripe, for her efforts in her Saru Jitsu club. Ashleigh has been faithfully attending the club now for some time and is clearly excelling. Keep up the good work Ashleigh!  (17/3/15) 

Bathodyn Blue Peter / Blue Peter Badge

Llongyfarchiadau i Bleddyn (Bl 1) ar ennill bathodyn Blue Peter am greu bathodyn Blue Peter mawr ei hun, trwy ddefnyddio cannoedd o leiniau. Creadigol iawn Bleddyn - da iawn ti! / Congratulations to Bleddyn (Yr 1) on being awarded a Blue Peter badge for creating a large Blue Peter badge of his own using hundreds of beads. Very creative Bleddyn - well done!  (17/4/15)

Hyfforddwr yr wythnos! / Trainer of the week!

Llongyfarchiadau i Sam (Derbyn) ar ennill tlws 'hyfforddwr yr wythnos' gyda'i glwb pêl-droed Sandfields FC. Mae'n amlwg dy fod ti'n rhoi 100% Sam, da iawn ti! / Congratulations to Sam (Reception) on being awarded the 'trainer of the week' trophy by his football club, Sandfields FC. You obviously give 100% in your training sessions Sam, well done!  (17/3/15)

Carate Campus! / Karate King!

Llongyfarchiadau i Morgan (Bl 5) ar ennill ei wregys goch am ei ymdrechion karate yn ddiweddar. Mae Morgan yn mwynhau'r her corfforol ac yn anelu am ei wregys nesaf yn barod. Da iawn ti! / Congratulations to Morgan (Yr 5) on being awarded his red karate belt recently. Morgan enjoys the physical challenge and is already aiming for his next belt. Well done!  (17/4/15)

Llwyddiant Nofio! / Swimming Success! 

Llongyfarchiadau i Oliver (Bl 2) ar ennill ei dystysgrif Cam 2 am ei ymdrechion yn y pwll nofio. Da iawn ti a dal ati i ymarfer y sgil holl bwysig hwn Oliver. / Congratulations to Oliver (Yr 2) on being awarded his Stage 2 swimming certificate for his efforts in the pool. Well done and keep up the good work with this vital skill Oliver.  (20/3/15)

Ballerina bendigedig! / Brilliant ballerina!

Llongyfarchiadau i Chloe (Derbyn) ar lwyddo yn ei gwersi bale yn ddiweddar. Mae Chloe yn angerddol am ei bale ac yn amlwg yn mwynhau ei hun mas draw. Da iawn ti! / Congratulations to Chloe (Reception) on succeeding in her ballet lessons recently. Chloe is passionate about her ballet and is clearly enjoying herself thoroughly. Well done!  (20/3/15)

Enfysau / Rainbows

Llongyfarchiadau i Carys (Derbyn) ar ennill ei thystysgrif Rainbows yn ddiweddar am gymryd ei llw. Da iawn ti Carys! / Congratulations to Carys (Reception) on being awarded her Rainbows certificate recently for taking her pledge. Well done Carys!  (20/3/15)

Brenhines y ddawns! / Dancing Queen!

Llongyfarchiadau unwaith eto i Megan (Bl 3) ar ennill nifer o dlysau am ei gwaith unigol, par a grŵp yng nghystadleuaeth ddawns diweddar. O ble mae'r holl egni yma'n dod? / Congratulations yet again to Megan (Yr 3) on winning numerous trophies for her individual, pair and group performances at a recent dance competition. Where does she find the energy?  (20/3/15)

Cymorth Cyntaf / First Aid

Llongyfarchiadau i Jake (Bl 4) ar ennill ei dystysgrif 'Heartstart' am gwblhau cwrs cymorth cyntaf yn ddiweddar. Da iawn ti Jake! / Congratulations to Jake (Yr 4) on being awarded his 'Heartstart' First Aid certificate recently. Well done Jake. (20/3/15)

Nofio fel pysgodyn! / Swimming like a fish!

Llongyfarchiadau i Tomos (Bl 1) ar ennill ei dystysgrif nofio 10m gyda'i ymdrechion yn y pwll. Y camau cyntaf yw'r pwysicaf Tomos felly dal ati! / Congratulations to Tomos (Yr 1) on being awarded his 10m certificate for his efforts in the pool. Those first strokes are the most important Tomos so keep up the good work! (6/3/15)

Camau nofio cynnar! / First swimming strokes!

Llongyfarchiadau mawr i Gwion (Meithrin) ar lwyddo i ennill ei dystysgrif nofio 10m! Y metrau cyntaf yw'r pwysicaf ar y daith Gwion, felly da iawn ti a dal ati! / Congratulations to Gwion (Nursery) on being awarded his 10m swimming certificate. Those first metres are the most important part of the journey Gwion, so well done and keep up the good work!  (26/2/15)

Cerddorion Ifanc Abertawe! / Swansea's Young Musicians!

Llongyfarchiadau mawr i Elin (Bl 5) ar ennill dwy fedal aur ac un arian am ei doniau yn canu'r piano a'r ffidil, ac i Dafydd (Bl 4) am ennill medal arian gyda'r piano, yng Ngwŷl Cerddorion Ifanc Abertawe yn ddiweddar. Da iawn hefyd i'r grŵp recorders am berfformio mor dda yn yr wŷl. / Congratulations to Elin (Yr 5) on winning two gold medals and a silver medal for her performances with the piano and the violin, and to Dafydd (Yr 4) on winning a gold medal with his performance on the piano, at the recent Abertawe Festival of Young Musicians. Well done also to the recorder party who also performed exceptionally well at the festival.  (13/2/15)

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Mae grŵp o ddisgyblion yr ysgol wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn ennill tystysgrifau am eu hymdrechion a'u llwyddiant yn y pwll nofio. Llongyfarchiadau mawr i Aneurin (Bl 3) a Cadi (Bl 2) ar lwyddo gyda'u tystysgrifau 400m ac i Caitlin (Bl 2) ac Oliver (Bl 1) am lwyddo gyda'u tystysgrifau 200m. Daliwch ati! / A group of our pupils have been very busy recently achieving success with their efforts in the swimming pool. Congratulations to Aneurin (Yr 3) and Cadi (Yr 2) on being awarded their 400m certificates and to both Caitlin (Yr 2) and Oliver (Yr 1) on achieving their 200m certificates. Keep up the good work.  (6/2/15)  

Brenhines Bocsio Cic! / Kick Boxing Queen!

Llongyfarchiadau i Ella (Bl 2) ar ennill tlws 'agwedd orau' ei chlwb Bocsio Cic. Mae  Ella yn mynychu'r clwb pob nos Wener ac yn mwynhau ei hun mas draw. Da iawn ti! / Congratulations to Ella (Yr 2) on being awarded the 'best attitude' trophy by her Kick Boxing club. Ella attends club every Friday night and enjoys herself immensely. Well done!  (16/1/15)

Nofio fel pysgodyn! / Swimming like a fish!

Llongyfarchiadau i Lea (Bl 2) ar ennill ei thystysgrif nofio 50m. Ers iddi ddechrau nofio, mae Lea wedi arddangos nifer o'i thystysgrifau yn ein gwasanaethau ac mae'n gobeithio cyrraedd y 100m yn fuan iawn. Dal ati Lea! / Congratulations to Lea  (Yr 2) on being awarded her 50m swimming certificate. Since beginning her swimming journey, Lea has shared all her certificates in our assemblies and is hopeful of displaying her 100m certificate shortly. Keep up the good work!  (16/1/15) 

Llwyddiant Piano! / Piano Success!

Llongyfarchiadau mawr i Rosie (Bl 5) ar ennill ei thystysgrif Gradd 1 ar y piano. Mae Rosie wedi bod yn canu'r piano ers tair mlynedd bellach ac yn profi bod ymarfer cyson yn talu ffordd. Dal ati! / Congratulations to Rosie (Yr 5) on being awarded her Grade 1 certificate in piano. Rosie has being playing for over three years now and proves that consistent practice pays off. Keep up the good work!  (9/1/15)

Bathodynnau Beavers / Beavers Badges

Llongyfarchiadau i Erin & Alexander (Bl2) ar ennill eu bathodynnau 'addewid' a 'chymorth cyntaf' gyda'u grŵp Beavers yn ddiweddar. Da iawn i'r ddau ohonoch chi a daliwch ati! / Congratulations to Erin & Alexander (Yr 2) on being awarded their 'promise' and 'first aid' badges recently with their Beavers group. Well done both and keep up the good work!  (12/12/14)

Dewin y bêl gron! / Football wizard!

Llongyfarchiadau i Danny (Derbyn) ar ennill tlws 'chwaraewr yr wythnos' gyda'i glwb pêl-droed Sandfield FC. Mae'r gwaith caled a'r ymdrech yn amlwg wedi creu argraff bositif iawn gyda'r hyfforddwyr. Dal ati Danny! / Congratulations to Danny (Reception) on being awarded the 'player of the week' trophy by his football team, Sandfields FC. All the hard work and effort is making a great impression on the coaches. Well done Danny!  (5/12/14)

Nofwyr talentog! / Talented swimmers!

Llongyfarchiadau i nifer o ddisgyblion yr ysgol sydd wedi profi llwyddiant yn y pwll nofio yn ddiweddar, gydag amrywiaeth o dystysgrifau yn cael eu cyflwyno. Mae Imogen, Megan, Manon, Sara, Iestyn a Bleddyn (Bl 1) a Caitlyn (Bl 2) wedi dyfalbarhau yn eu gwersi ac wedi ennill clod haeddiannol am eu hymdrechion. Da iawn i chi gyd! / Congratulations to the numerous pupils who have tasted success in the swimming pool recently, with a variety of certificates being awarded. Imogen, Megan, Manon, Sara, Iestyn and Bleddyn (Yr 1) and Caitlyn (Yr 2) have all persevered in their lessons and have won worthy praise for their efforts. Well done everyone!  (5/12/14  

Llwyddiant Gymnasteg! / Gymnastic Success!

Llongyfarchiadau i Brooke (Bl 1) ar ennill ei thystysgrif gymnasteg Cam 4 yr wythnos hon. Mae Brooke a'i brawd yn mynychu clwb gymnasteg yn wythnosol ac yn profi'n llwyddiannus iawn gyda'u gwobrau a'u tystysgrifau. Da iawn! / Congratulations to Brooke (Yr 1) on winning her Stage 4 gymnastics certificate this week. Both Brooke and her brother attend their gymnastics club weekly and are proving very successful in winning awards and certificates. Well done!  (5/12/14)

Seren Arbennig! / Super Star!

Da iawn Darcey (Bl 1) ar ennill medalau am wrando a charedigrwydd yn ei chlwb 'Super Stars' yn ddiweddar. Mae'r nodweddion hyn yn hynod bwysig Darcey felly dal ati. / Well done Darcey (Yr 1) on winning medals for her kindness and her listening skills at her 'Super Stars' club recently. Both of these characteristics are very important Darcey so keep up the good work. (28/11/14)  

Llwyddiant dawnsio pellach! / Further dance success!

Llongyfarchiadau unwaith eto i Megan (Bl 3) ar ei llwyddiant diweddar yng nghystadleuaeth dawnsio yr UDO. Mae Megan yn dawnswraig o fri ac yn arddangos ei medalau a'i thlysau yn ein gwasanaethau yn gyson. Mae ganddi ddyfodol disglair! / Congratulations yet again to Megan (Yr 3) on her recent success at a UDO dance championship. Megan is a very talented dancer and regularly displays her medals and trophies in our celebration assemblies. She has a bright future ahead of her! (28/11/14)  

Llwyddiant Nofio! / Swimming Success!

Llongyfarchiadau i Zagros (Bl 2) ar ennill ei dystysgrif Gradd 2 Sgiliau Dŵr yn ddiweddar. Da iawn ti a dal ati Zagros! / Congratulations to Zagros (Yr 2) on being awraded his Grade 2 Water Skills certificate recently. Well done Zagros and keep up the good work! (28/11/14)

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Sienna (Bl 3) ar ennill ei thystysgrif Nofio Cam 5 yr wythnos hon. Mae'n mwynhau ei nofio yn fawr iawn ac yn datblygu ei sgiliau nofio yn effeithiol iawn. Dal ati Sienna! / Congratulations to Sienna (Yr 3) on being awarded  her Stage 5 Swimming certificate this week. She thoroughly enjoys her swimming and is developing these all important skills very well. Keep up the good work Sienna!  (21/11/14) 

Gwregys Oren! / Orange Belt!

Llongyfarchiadau mawr i Bleddyn (Bl 1) ar ennill ei wregys carate oren am ei ymdrechion yn ei glwb carate yn ddiweddar. Mae Bleddyn wedi rhoi ei fryd ar ennill y wobr nesaf yn barod - y wregys goch! Da iawn ti!  / Congratulations to Bleddyn (Yr 1) on being awarded his orange karate belt for his efforts in karate club recently. Bleddyn already has his eye on the next target - the red belt! Well done! (14/11/14)

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Dylan (Bl 2) ar ennill ei dystysgrif nofio 'Pysgodyn Aur 1' yn ogystal a'i fathodyn nofio 10m yn ddiweddar. Y metrau cyntaf yw'r pwysicaf Dylan felly dal ati gyda dy ymdrechion! / Congratulations to Dylan (Yr 2) on being awarded his 'Goldfish 1' swimming certificate as well as his 10m badge recently. Those first metres are the most important Dylan, so keep up the good work!  (14/11/14)

Myfyriwr y Mis / Student of the Month

Llongyfarchiadau i Ferdi (Bl 1) ar ennill tlws 'myfyriwr y mis' yn ei glwb Ju-jitsu am fis Hydref. Mae Ferdi yn mwynhau mynychu'r clwb yn wythnosol ac yn rhoi o'i orau glas bob amser. Dal ati! / Congratulations to Ferdi (Yr 1) on being awarded the 'student of the month' trophy by his Ju-jitsu club for the month of October. Ferdi enjoys attending the club weekly and gives of his best in every session. Keep up the good work!  (14/11/14)

Nofio Neilltuol! / Superb Swimming!

Mae tair merch wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn ennill tystysgrifau nofio am eu hymdrechion yn y pwll. Llongyfarchiadau i Sara (Bl 1) a Caitlin (Bl 2) ar ennill eu tystysgrifau 100m ac i Loti (Bl 4) ar ennill ei thystysgrif 1000m - tipyn o gamp ferched! Da iawn chi a daliwch ati. / Three of our pupils have been very busy recently being awarded swimming certificates for their efforts in the pool. Congratulations to Sara (Yr 1) and Caitlin (Yr 2) on being awarded their 100m certificates and to Loti (Yr 4) on being awarded her 1000m certificate - quite an achievement girls! Well done and keep up the good work.  (17/10/14)

Pencampwr y Pwll! / Pool Champion!

Da iawn Osian (Bl 2) ar ennill ei dystysgrif 400m yn y pwll yn ddiweddar. Mae 400m yn tipyn o bellter ac mae angen cryn dipyn o ddyfalbarhad i'w gyflawni. Llongyfarchiadau mawr iti! / Well done Osian (Yr 2) on being awarded his 400m swimming certificate recently. 400m is quite a distance and requires a lot of perseverance in order to swim it. Congratulations! (3/10/14)

Dawnswriag Dawnus! / Talented Dancer!

Da iawn unwaith eto Megan (Bl 3) ar ennill nifer o dlysau a medalau mewn cystadleuaeth dawnsio stryd wythnos diwethaf. Bydd rhaid i rieni Megan adeiladu estyniad ar y tŷ i ddal yr holl wobrau hyn cyn hir! Da iawn ti! / Well done Megan (Yr 3) on once again winning a number of trophies and medals at a street dance competition recently. Megan's parents will have to build an extention to house all these awards soon! Well done! (3/10/14)

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Erin a Grace (Bl 2) ar ennill eu tystysgrifau nofio Cam 3 yn ddiweddar. Mae'r ddwy wedi bod yn rhan o gwrs nofio dwys ac wedi llwyddo i ddysgu'r sgíl holl bwysig hwn mewn cyfnod byr iawn o amser. Da iawn i'r ddwy ohonoch chi! / Congratulations to Erin and Grace (Yr 2) on being awarded their Stage 3 swimming certificates recently. Both girls have been part of an intense swimming programme and have succeeded in learning this all important skill in a short space of time. Well done both! (3/10/14)

 

Llwyddiant Dawnsio! / Dance Success!

Llongyfarchiadau i Jessie (Bl 5) ar ennill cyfres o fedalau gyda'i chlwb dawnsio, gan ddangos ei doniau dawnsio stryd, tap a bale ymysg eraill. Dal ati Jessie! / Congratulations to Jessie (Yr 5) on winning a series of medals with her dance club, by showcasing her street, tap and ballet dancing skills amongst others. Well done Jessie! (3/10/14)

Llwyddiant Nofio! / Swimming Success!

Llongyfarchiadau i Sian (Bl 5) ar ennill medalau aur ac arian yng ngala nofio ei chlwb, 'Swim Swansea' yn ddiweddar. Mae Sian eisioes wedi cynrychioli'r ysgol yn llwyddiannus, ac yn ymarfer am oriau pob wythnos. Da iawn ti Sian! / Congratulations to Sian (Yr 5) on winning both a gold and silver medal at her swimming club's gala recently. A member of 'Swim Swansea', Sian has also represented the school with great success in the past and spends hours in the pool each week practicing. Well done Sian! (26/9/14)  

Nofio fel pysgodyn! / Swimming like a fish!

Llongyfarchiadau i Anwen (Bl 1) ar ennill medal gyda'i chlwb nofio 'Swansea Sharks' yn ddiwedar. Mae Anwen wrth ei bodd yn nofio ac hyfryd i'w ei gweld hi'n cael ei gwobrwyo am ei hymdrechion. Da iawn ti! / Congratulations to Anwen (Yr 1) on winning a medal recently with her swimming club, 'Swansea Sharks'. Anwen thoroughly enjoys her swimming and it's great to see her being rewarded for all her efforts. Da iawn ti! (26/9/14)

Dawnswraig Dawnus! / Dancing Queen!

Llongyfarchiadau mawr i Megan (Bl 3) ar ei llwyddiant ysgubol ym Mhencampwriaeth Dawnsio Stryd y Byd yn yr Alban yn ddiweddar. Cipiodd tîm Megan yr ail wobr yn y gystadleuaeth tîm ac ail hefyd yng nghystadleuaeth y ddeuawd. Bydd seren newydd yn ymddangos ar 'Strictly Come Dancing' yn y dyfodol agos! Da iawn ti! / Congratulations to Megan (Yr 3) on her outstanding success at the World Street Dance Championships in Scotland recently. Megan captured second prize in the duet competition and her team also captured second prize in the team event. A new star will be unveiled on 'Strictly Come Dancing' in the near future! Well done Megan! (19/9/14) 

Dewin y bêl gron! / Football wizard!

Llongyfarchiadau i Osian (Bl 1) ar ennill tlws 'chwaraewr yr wythnos' gyda'i glwb pêl-droed Sandfield FC. Blwyddyn gyntaf Osian yw hon gyda'r clwb ac mae'n amlwg ei fod wedi creu argraff bositif iawn gyda'r hyfforddwyr yn barod. Dal ati Osian! / Congratulations to Osian (Yr 1) on being awarded the 'player of the week' trophy by his football team, Sandfields FC. This is Osian's first year with the club and he's clearly made a great impression on the coaches already. Well done Osian! (19/9/14) 

Darllen Difyr! / Happy Reading!

Da iawn Freya (Bl 4) ar ennill tystysgrif 'Darllen Difyr' gan Llyfrgell Abertawe am ei darllen brwd dros yr Haf. Dal ati! / Well done Freya (Yr 4) on being awarded a certificate by Swansea Library for her eager reading over the Summer. Keep up the good work!  (19/9/14)

Cerddorwraig campus! / Musical maestro!

Llongyfarchiadau i Elin (Bl 5) ar lwyddo yn ei arholiad Gradd 4, gydag anrhydedd, ar y Ffidil. Disgybl dawnus gyda nifer o offerynnau, mae Elin yn ymarfer yn ddyddiol ac yn profi bod angen gweithio'n ddyfal er mwyn llwyddo mewn unrhyw faes. Da iawn ti Elin! / Congratulations to Elin (Yr 5) on passing her Grade 4 Violin exam, with distinction. A very talented pupil with numerous instruments, Elin practices on a daily basis and proves that to succeed in any field, you must be persistent. Well done Elin! (12/9/14)  

 

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Mackenzie (Bl 5) ar ennill ei dystysgrif 1000m nofio yn ddiweddar. Tipyn o bellter a thipyn o gamp Mackenzie - da iawn ti! / Congratulations to Mackenzie (Yr 5) on being awarded his 1000m swimming certificate recently. Quite a distance and quite an achievement Mackenzie - well done! (12/9/14)

Dawnswraig bale y dyfodol? / Future ballerina?

Da iawn Daisy (Bl 4) ar lwyddo yn ei arholiad bale diweddar gydag anrhydedd. Mae Daisy wedi bod wrthi ers tua 4 mlynedd bellach ac yn profi bod dyfalbarhad yn talu ffordd. / Well done Daisy (Yr 4) on passing her recent ballet exam with distinction. Daisy has been dancing for over 4 years now and proves that perseverance pays off. (12/9/14)

Llwyddiant Ffliwt / Flute Success

Llongyfarchiadau mawr i David (Bl 4) ar lwyddo yn ei arholiad Gradd 3 ar y ffliwt yn ddiweddar. Mae David wedi bod wrthi yn ymarfer yn ddyfal ers 18 mis bellach ac yn paratoi yn barod am ei arholiad Gradd 4. Da iawn David! / Congratulations to David (Yr 4) on succeeding in his Grade 3 flute exam recently. David has been busy practicing now for over 18 months and has already begun preparing for his Grade 4 exam. Well done David! (5/9/14) 

Haf prysur iawn! / A very busy Summer!

Mae Loti (Bl 4) wedi bod yn brysur iawn dros wyliau'r Haf, trwy ennill ei gwregys Ju-jitsu diweddaraf, tystysgrif Lefel 2 goroesiad pwll a bathodyn Gradd 4 gymnasteg. Rhaid bod ganddi egni di-derfyn! Da iawn ti Loti! / Loti (Yr 4) has been extremely busy during the Summer holidays, winning her latest Ju-jitsu belt, being awarded her Level 2 pool survival certificate, as well as her Grade 4 gymnastics badge. She must have endless energy! Well done Loti! (5/9/14) 

Llwyddiant Gymnasteg / Gymnastic Success

Llongyfarchiadau i Sara (Bl 2) ar gyrraedd Gradd 6 yn ei gymnasteg. Da iawn a dal ati i weithio'n galed yn y gampfa Sara! / Congratulations to Sara (Yr 2) on achieving her Grade 6 in gymnastics. Well done and keep up the good work in the gym Sara! (5/9/14)