Cafodd fl.6 amser bendigedig a blinedig yn Llangrannog. Dyma flas o'r gweithgareddau. Yn anffodus, roedd yn amhosib tynnu lluniau o bawb - mae'r rhan fwyaf yn luniau o'r plant a oedd yn fy ngrŵp i gan mai dyna'r unig blant a oedd gyda fi dros yr wythnos.
Yr. 6 had a fantastic but tiring week in Llangrannog. These photos should give you a taste of the activities they enjoyed. Unfortunately, it was impossible to take photos of everyone as only a few were in my group and with me!
Llangrannog 2014
Drafft
Llythrennedd
Idiom yr wythnos 28/4/14:
Ffeithiau rhifedd 28/4/14
PWYSIG
Adolygwch - edrychwch yn eich llyfrau cyswllt am y ffeithiau rhifedd yr ydych wedi eu dysgu eleni.
Edrychwch ar y 4 llun isod.
1) Pa un yw'r un od (sydd yn wahanol i'r tri arall)?
Pam?
2) Beth sydd yn debyg am y 4 llun?
Ein thema yr hanner tymor yma ydy 'O am Fyd Rhyfeddol'. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddaearyddiaeth ac y mae'n dysgu'r plant am arwyddocad daearyddol a hanesyddol y 'Rhyfeddodau Byd' cydnabyddedig. Wrth wraidd y prosiect hwn mae plant yn ysgrifennu storiau naratif wedi'u lleoli mewn amryw o leoliadau ac yn datblygu sgiliau ychwanegol mewn ysgrifennu disgrifiadol ar gyfer taflenni, llyfrynnau teithio a chyflwyniadau aml-gyfrwng. Yn y rhan Arloesi mae plant yn cymhwyso eu sgiliau a'u dealltwriaeth trwy ddatblygu pecyn twristiaid ar gyfer Awdurdod Twristiaeth Prydain gan gyflwyno eu 7 Rhyfeddod Cymru' eu hunain.
Tasg dosbarth - ysgrifennu sgwrs rhwng dau gymeriad o stori Barti Ddu -Abram Tomos a Barti Ddu.
Beth sy'n gwneud gwaith da?
-iaith anffurfiol a thafodiaeth y cymeriadau
-gwybodaeth o'r stori
-cynnwys geirfa newydd
-mynegiant da yn y llais
Dewch i wrando.
Ein thema yr hanner tymor yma ydy 'Y Peiriant Sgrech'. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar wyddoniaeth ac fe fyddwn yn dysgu am ystod o rymoedd gan gynnwys disgyrchiant. Gobeithiwn ymweld a pharc thema i gael hwyl yn archwilio a thynnu lluniau mecanweithiau y gellir eu gweld. Fe fyddwn yn trafod sut mae gwahanol reidiau'n gweithio a pha fath o fecanweithiau a ddefnyddir. Wrth wraidd y prosiect hwn byddwn yn ysgrifennu barddoniaeth ar y thema o geir sglefrio ac yn datblygu sgiliau ychwanegol wrth ysgrifennu esboniadau a recordio archwiliadau gwyddonol. Fe fyddwn yn darllen y nofel 'Barti Ddu' gan T. Llew Jones fel sbardun ychwanegol i dasgiau iaith.
Our theme this half term is 'The Scream Machine'. This project has a science focus and teaches about a range of forces including gravity. We will be visiting a theme park and the local park for fun and to investigate and photograph mechanisms that can be seen. We will discuss how different rides work and what mechanisms are used. At the heart of the project we will be writing shape poems on the theme roller coasters and develop additional skills in writing explanations and recording scientific investigations.We will also be reading the novel 'Barti Ddu' by T. Llew Jones.