Croeso i ddosbarth Miss Griffiths, Miss Weston a Miss Price.
Yn ystod yr wythnosau i ddilyn fe fyddwn yn rhannu gwybodaeth a lluniau ynglyn a'r dosbarth.
Hwyl am y tro a chofiwch gwirio'r wefan yn gyson .
Welcome to Miss Griffiths, Miss Weston and Miss Price' class.
During the forthcoming weeks we will be sharing important information and photos regarding the class.
Diolch yn fawr i'r rhieni am brynu cynfasau Celf y plant yn y Ffair Haf. O ganlyniad rydym hyd yn hyn wedi codi £120 ar gyfer yr ysgol! Os nad ydych wedi eu prynu plis dewch i'r dosbarth.
A big thank you to the parents for buying their children's art canvases in the Summer Fete. So far we have raised £120 for the school! If you have yet to purchase your childs work please come to the class.
Yn ystod yr wythnos hon mae'r plant wedi bod yn hynod o brysur yn dylunio a pheintio cynfas yr un er mwyn gwerthu yn y Ffair Haf. Os nad ydych yn medru dod cewch eu prynu yn uniongyrchol o'r dosbarth. Gweler isod am rai esiamplau. Picassos y dyfodol efallai?!
This week the children have been very busy designing and painting an art canvas each in order to sell at our Summer fete. If you are unable to come you may purchase them directly from the class. See below for a few examples - Picassos of the future perhaps?!
Hwyl fawr i'n thema Dinosoriaid.
Helo i'n thema newydd sef Bownsio!
Byddwn yn dysgu sut i weithio fel tim ac yn naturiol - datblygu ein sgiliau pel ac ymarfer corff.
Farewell to our Dinosaur theme.
Hello to our new theme - Bouncing!
This theme has an emphasis on team games and naturally - ball and PE skills!

Er gwybodaeth:
Os ydych yn defnyddio Trydar beth am ddilyn cyfrif y dosbarth?
Enw Trydar - YGGBYMKGriffith.
For your information:
If you are a keen Twitter user why not follow our class account?
Our Twitter name is YGGBYMKGriffith
Edrychwch pwy ddaeth i weld ni heddiw....
Roedd y plant wrth eu bodd wrth weld Miss Weston ac wrth gwrs Ethan.
Am syrpreis hyfryd!
Look who came to see us today...
The children were very excited to see Miss Weston and of course meet baby Ethan.
A lovely surprise!


Llongyfarchiadau mawr i Miss Weston yn ddiweddar. Ganwyd Ethan James ar 4ydd o Fai. Newyddion hyfryd i'r dosbarth!![]()
Congratulations are in order for Miss Weston. Ethan James arrived safely on 4th May. Lovely news!![]()
Croeso mawr i Miss Harries - ein cynorthwywraig newydd a fydd yn cymryd dros ddyletswyddau Miss Weston sydd ar ei chyfnod mamolaeth.
A warm welcome to Miss Harries - our new classroom assistant who will be taking over from Miss Weston whilst she is on her maternity leave.

Ein thema ar ol y gwyliau yw Brwydr y deinosoriaid! Mae'r plant yn hynod o gyffrous! Os oes gennych unrhyw adnoddau a fydd o gymorth fe fyddwn yn ddiolchgar iawn.
Our theme after the holidays is Battle of the dinosaurs! The children are so excited! If you have any resources which could be of use we will be very grateful to receive them.
Sesiwn holi ac ateb.
Question time!
Edrychwch pwy ddaeth i weld ni heddiw! Dim ond y wrach o stori Wwsh ar y brwsh! Cawsom hwyl yn holi cwestiynau iddi!
Look who flew in to see us today! The witch from the story we have been reading - Wwsh ar y brwsh! We loved asking her questions about her job as a witch!
Baw, annibendod a chymysgeddau - yn lythrennol!! Hwyl a sbri yng nghanol y llanast!
Mud, mess and mixtures - quite literally!! We had such a fun time amongst all the chaos!
Fel rhan o'r thema rydym yn bwriadu cynnal diwrnod chwarae anniben ar Ddydd Mercher 12fed o Fawrth. Bydd y plant yn arbrofi gyda deunyddiau fel tywod, blawd, mwd a spagetti!! Gofynnwn yn garedig os fedrwch ddanfon eich plant i'r ysgol mewn hen ddillad. Rydym yn rhagweld annibendod enfawr! Diolch am eich cydweithrediad cyson.
As part of the new theme we intend to hold a messy play day on Wednesday 12th March. The children will be experimenting with a range of substances such as sand, flour, mud and spaghetti! We kindly ask that the children wear old clothes to school on this day as there is a strong possibility that they might get a little dirty! As always, thank you for your cooperation.
Edrychwn ymlaen at agoriad swyddogol Safle adeiladu Awstralia ar Ddydd Llun! Cystadleuydd i adeiladwyr Persimmon!
We are looking forward to the formal opening of Australia's building site on Monday! A rival for Persimmon builders!
Mae safle adeiladu Bob y bildar ar y gweill!
Bob the builders construction site is almost ready!

Diolch o galon i famgu Callum a chynigodd i lanhau a thrwsio ardal allanol y dosbarth y bore ma. Mae'r plant a'r staff yn ddiolchgar dros ben am ei gwaith caled ac rydym yn addo i gadw' r lle yn daclus!
The children and staff would like to say a massive thank you to Callum's gran who offered to help tidy our outside area this morning. It is now spotless and we promise to keep it neat and tidy! Thank you again for all your hard work!

![]()
Croeso nol i'r ail hanner o dymor y Gwanwyn. Ein thema newydd yw Baw, annibendod a chymysgeddau! Byddwn yn dysgu am ddeunyddiau amrywiol a'u phriodweddau. Rydym wedi penderfynu sefydlu "safle adeiladu" yn ein cornel chwarae. Os oes gennych unrhyw adnoddau ( llyfrau, teganau Bob y bildar) a fydd o gymorth byddwn yn ddiolchgar iawn i'w derbyn. Diolch yn fawr!
Welcome back to the second half of the Spring term. Our new theme is Mud, mess and mixtures! We will be learning about different materials and their properties. We have decided that we would like to become keen builders and form a " building site" in our role play corner. If you have any items which could be of use ( books, Bob the builder toys or plastic tools) we would be very grateful to receive them. Thank you!
Roedd Fflyffi yn ddiolchgar iawn am ei jeli coch heddiw!
Fluffy the dog was very grateful for his jelly today!
Ffarwel i thema Pitran Patran yn y pyllau - rydym wir wedi datblygu nifer o sgiliau, yn enwedig yn wyddonol!
A fond farewell to our Pitter patter in the puddles theme. We have developed greatly through the use of this theme, particularly our science skills!
Rydym wedi bod yn dysgu am brosesau rhewi ac ymdoddi yr wythnos hon...Brrrrrr! Geirfa i gofio:
hylif solid rhewi ymdoddi
We have been keen scientists this week and have been learning how water can freeze and melt. Brrrrr! The ice was very cold!
Croeso nol i dymor (a blwyddyn) newydd!
Ein thema am yr hanner tymor i ddilyn yw Pitran Patran yn y pyllau - addas iawn wrth ystyried yr holl dywydd gwael rydym wedi cael yn ddiweddar!
Er mwyn arbrofi a mwynhau yn y pyllau dwr fe fydd angen par o esgidiau glaw ar eich plentyn.Os nad ydych wedi eu darparu yn barod, a wnewch chi sicrhau fod par ganddynt yn fuan os gwelwch yn dda. Diolch am eich cydweithrediad.
Welcome back to a new term ( and year of course!)
Our theme for the forthcoming half term is Pitter, pattering in the puddles - very appropriate considering the severe weather conditions we have experienced lately!
In order to experiment and enjoy splashing in the puddles your child will require a pair of wellingtons. If you have not already provided these, we kindly ask that you do so as soon as possible please. Thank you for your support.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i blant a theuluoedd Awstralia! Diolch am eich holl gefnogaeth yn ystod y tymor.
A very Merry Christmas and a Happy New Year to all! Thank you for your continued support throughout the term.![]()

9/10/2013 Dyma cip olwg o'r gweithgareddau rydym wedi bod wrthi'n gwneud hyd yn hyn!