Skip to content
  • Cadw iaith, Cadw Gwlad

  • Welcome to our School

    Ar ran yr holl ddisgyblion, staff a llywodraethwyr, hoffwn groesawu chi i wefan Ysgol Gymraeg Bryn y Môr. Mae Ysgol Bryn y Môr yn ysgol hapus a gofalgar sydd yn darparu addysg ddwyieithog arbennig i'n plant ni ac yn eu paratoi nhw gyda'r sgiliau a'r gwerthoedd i lwyddo yn y dyfodol. Mae pawb sydd yn rhan o deulu Ysgol Bryn y Môr yn gweithio'n ddyfal i'w gwneud hi'n ysgol hapus a chreadigol sydd yn caniatáu ein plant i flodeuo ac i dyfu. Wrth i'r plant a'r staff gyfrannu at y wefan, bydd yr hapusrwydd a'r creadigrwydd yma yn dod i'r amlwg ar dudalennau'r safle. Manteisiwch ar bob cyfle i wirio'r wefan gan fydd llif cyson o newyddion a gwybodaeth i'w ddarllen. Pe bai unrhyw bryder neu ymholiad gennych, cysylltwch ag athro/athrawes eich plentyn neu fi yn bersonol trwy ffonio neu e-bostio. Gweler manylion ar sut i gysylltu ar y dudalen 'Manylion Cysylltu'. Diolch i chi am ddangos diddordeb yn ein hysgol - rydym yn ymfalchïo ynddi.  Os hoffech chi ymweld â'r ysgol neu ofyn unrhyw gwestiynau cysylltwch â'r ysgol i wneud trefniadau. 

    Diolch                                                                                                                          

    Latest Updates

    L o a d i n g

    Contact Us

    Ysgol Gymraeg Bryn y Môr Heol St Alban Brynmill Abertawe SA2 0BP