Croeso i dudalen Blwyddyn 5
Dilynwch ni ar Drydar / Follow us on Twitter
@YGGBYMSJohn
Newid Byd: Ein
Llais / World change: Our Voice
Yn ystod y thema yma byddwn yn dysgu am bobl arwyddocaol ac arloesol yn hanes yn ogystal â chymeriadau cyfoes sydd wedi newid y byd trwy ymgyrchu. Bydd y plant yn dysgu sut mae pobl wedi ac yn dal i newid y byd trwy defnyddio eu llais yn ogystal â sut mae llais y plant yma yn effeithio ar ein byd heddiw.
During this theme we will be learning about key historical characters who have made a difference to the world e.g. Rosa Parks, Nelson Mandela, Gandhi, Martin
Luther King and the suffragettes. The children will learn how people have and are still making a difference using only their voice, as well as learning how important the children’s voice today.
Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar wyddoniaeth ac ynni ac yn eich dysgu am wahanol fathau h.y. Ynni adnewyddadwy ac ynni anadnewyddadwy. Byddwch hefyd yn dysgu am ein hamgylchedd yn ogystal â thrafod pynciau llosg ein byd heddiw.
This project has a science focus and will teach you about energy and how renewable energy differs from non renewable energy. We will also be learning about different types of generating energy, weighing up the advantages and disadvantes as well as discussing hot topics such as climate changes and global warming.
Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar wyddoniaeth ac yn eich dysgu am ddefnyddiau a sut mae gronynnau yn symud o gwmpas defnyddiau gwahanol e.e. hylifau, solidau a nwyon. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gynnal arbrofion annibynnol yn ogystal â chreu a gwerthu bomiau bath eich hun!
This project has a science focus and will teach you about materials and how particles are arranged in liquids, solids and gases. You will have the opportunity to conduct independent science investigations and even create and sell your own bath bombs with your very own stall!
YR AIL RYFEL BYD (1939-1945)
Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar hanes ac yn eich dysgu am yr Ail Ryfel Byd gan gynnwys dealltwriaeth am y rhesymau dros ryfel, yr effaith ar fywyd bob dydd pobl gan gynnwys plant ac am unigolion pwysig y cyfnod. Byddwch hefyd yn dysgu am arwyddocad Blitz Abertawe a'i effaith cymdeithasol a dynol.
This project has a history focus and will teach you about the Second World War including an understanding of the reasons for war, the impact on the everyday lives of people including children and about significant individuals in the period. You will also learn about the significance of the Swansea Blitz and the social and human impact of it.