Skip to content
  • Faith Mathemateg yr wythnos

    Gwir neu anwir?

    Os ydych chi'n lluosi odrif gydag odrif mae'r ateb yn odrif bob tro!

    e.e. 7 x 3 = 21

    Beth am luosi dau eilrif gyda'u gilydd?

    e.e. 8 x 4 = 24

    Beth am luosi eilrif gydag odrif?

    Arbrofwch...

    Gallwch ddefnyddio tabl 4 i gyfrifo atebion tabl 8 drwy ddwbli'r ateb: 

    6 x 4 = 24

    dwbl 24 = 48

    6 x 8 = 48

    Beth am geisio gwneud mwy?

    Blwyddyn 3

    Mae tablau yn gallu cael eu gosod mewn i deuluoedd. 

    • Tablau  1, 2 a 4
    • Tablau 1, 10 a 5
    • Tablau 1 a 3

    Blwyddyn 4

    Mae tablau yn gallu cael eu gosod mewn i deuluoedd. 

    • Tablau  1, 2 a 4
    • Tablau 1, 10 a 5
    • Tablau 1, 3 a 6

    7/4/14

    Er mwyn chwarteri rhif gallwch haneri, ac yna haneri eto.

    e.e. Chwarter 100. Hanner 100 yw 50, hanner 50 yw 25, felly chwarter 100 yw 25

    When quartering a number you can halve it, and halve it agai.

    e.g. Quarter 100. Half of 100 is 50, half of 50 is 25, therefor quarter of 100 is 25.

    Blwyddyn 3

    Os ydych am haneru rhif 2 digid, hanerwch y degau yn gyntaf,  wedyn yr unedau. Nawr adiwch y ddau rhif.

    e.e. hanner 28 = 10 + 4 = 24

    hanner 34 = 15 + 2 = 17

    hanner 53 = 25 + 1.5 = 26.5

    Blwyddyn 4

    Os ydych am haneru rhif 3 digid, hanerwch y cannoedd yn gyntaf, wedyn y degau, wedyn yr unedau.

    Nawr adiwch y tri rhif.

    e.e. hanner 246 = 100 + 20 + 3 = 123

    hanner 348 = 150 + 20 + 4 = 174

    hanner 753 = 350 + 25 + 1.5 = 376.5