Home Page

Hanes yr Ysgol / History of the School

Rhagair i'r prosiect

Mae’r iaith Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop ac ar un adeg yr oedd mwyafrif o bobl Cymru yn siarad yr iaith. Ond fe gafodd nifer o bethau ddylanwad ar ddirywiad yr iaith. Dyma rhai:

  • Yn 1536 fe benderfynodd Harri VIII uno Cymru a Lloegr. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyhoeddus nac yn y llysoedd wedi hynny. Cafodd hyn effaith mawr ar ddirywiad yr iaith Gymraeg.
  • Yn 1847 fe sefydlwyd Comisiwn Brenhinol i archwilio i safon addysg yng Nghymru. Yn ôl yr adroddiadau yr oedd yr iaith Gymraeg yn cael effaith gwael ac yn rhwystro plant rhag ddatblygu yn llawn yn y byd. Arweiniodd hyn at ddefnydd y ‘Welsh Not’ o fewn ysgolion.
  • Y Chwyldro Diwydiannol. Roedd hyn yn golygu bod nifer o bobl yn symud ar hyd a lled y wlad yn chwilio am waith yn y pyllau glo a’r ffatrioedd. Roedd cannoedd o ymfudwyr yn symud i’r wlad a dim ond Saesneg oedd y mwyafrif yn siarad ac fe newidiodd hyn batrwm ieithyddol Cymru yn llwyr.(Ffynhonnell wybodaeth: parallel.cymru)

 

Mae ystadegau yn dangos o 1901 ymlaen bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi dirywio. Yn wir, erbyn canol y ganrif ddiwethaf roedd pobl yn poeni yn fawr am ddyfodol yr iaith ac felly cafwyd ymdrech mawr i geisio achub yr iaith. Mae ein prosiect hanes ni yn cynnwys gwybodaeth am y ffordd mae twf ysgolion Cymraeg, ac Ysgol Bryn y Môr yn benodol wedi ymateb i'r her hon.

 

Fe benderfynon ni fel ysgol i gynnal ymchwiliad i hanes datblygiad ein hysgol ni. Ond wrth ddarllen ac ymchwilio yn fwy dyma ni’n sylweddoli bod llyfrau log ein hysgol a’r erthyglau papur newyddion yn cynnwys tystiolaeth o’r frwydr i ddatblygu addysg Gymraeg o fewn ein hardal. Felly dyma ni’n ehangu ein hymchwiliad i gynnwys y wybodaeth yma.

 

Wrth gynnal ein hymchwiliad rydym wedi cael gweld yr ymdrech aruthrol gan unigolion allweddol i ddatblygu addysg Gymraeg yn ein hardal. Rydym wedi cael y cyfle i glywed am athrawon ymroddedig a weithiodd yn galed i sicrhau bod plant yn cael addysg cyfoethog o fewn ein hysgol. Wrth i’r ysgol i lwyddo roedd galw mawr am fwy o ysgolion.

 

Fe gafon ni'r cyfle i glywed; am sut y cynorthwyodd rhieni i gydweithio gydag ysgolion Cymraeg arall yr ardal i frwydro i gael mwy o ysgolion; am aelodau o’r gymuned leol oedd yn gefnogol i glywed plant yn siarad Cymraeg trwy eu gwahodd i ganu neu berfformio; ac Aelodau Seneddol a gynorthwyodd i ymgyrchu am fwy o ysgolion Cymraeg.

 

Mae gan Gynulliad Cymru darged i gael miliwn o bobl yn siarad yr iaith Gymraeg erbyn 2050. Rydym yn barod wedi gweld y datblygiad ers 1950. Gobeithiwn fod yn rhan o lwyddiant y targed yma a gweld mwy o ysgolion Cymraeg yn agor yn y dyfodol.

 

 

 

 

Hanes Ysgol Gymraeg Bryn y Môr a datblygiad addysg Gymraeg yn ein hardal.

Ymchwilio i Hanes Ein Hysgol

Still image for this video

Cefndir a llinell amser

Still image for this video

Animeiddiad i ddangos lleoliad ysgolion Cymraeg ein hardal

Still image for this video
Ein Ffynonellau Gwybodaeth

Rhan 1: Sesiwn holi ac ateb gyda Mr. Huw Phillips un o gyn brifathrawon yr ysgol.

Still image for this video

Ein cyfweliad gyda Mrs G. Hughes - cyn ddisgybl yn ein hysgol

Still image for this video

Holi Mrs. Evans

Still image for this video

Gwerthuso dibynadwyedd ffynonellau

Gwerthuso dibynadwyedd ffynonellau 1
Gwerthuso dibynadwyedd ffynonellau 2
Gwerthuso dibynadwyedd ffynonellau 3

Dadansoddi data

Dadansoddi data 1

Casglu cwestiynau i’w hymchwilio

Ymweliad Mr Phillips - Pennaeth cyntaf yr ysgol

Lluniau - Rhannu a dathlu ein gwaith gyda gweddill disgyblion yr ysgol a’r llywodraethwyr

Fideo - Rhannu a dathlu ein gwaith gyda gweddill y disgyblion a’r llywodraethwyr

Still image for this video