Home Page

Dathlu llwyddiant / Celebrating Success Archive: 2015-2016

Mae gan bob plentyn yn Ysgol Gymraeg Bryn y Môr ddawn arbennig, p'un ai yn y byd academaidd, chwaraeon, cerddoriaeth, celfeddydol neu rhyw faes arall. Yn ogystal â phwysleisio hyn ar lawr y dosbarth, mae ein 'Gwasanaeth Gwobrwyo' pob Dydd Gwener yn gyfle i ddathlu'r llwyddiannau hyn hefyd. Dyma i chi rhai o'n llwyddiannau diweddar ni! / Every child at Ysgol Gymraeg Bryn y Môr has a special talent, be it academic, sporting, musical, artistic or in another field. In addition to emphasising this in the classroom, our 'Celebration Assembly' every Friday is an opportunity to celebrate these successes as well. Here are some of our most recent successes!

Sêr yr Wythnos / Stars of the Week 

Yn dilyn enwebiadau gan yr athrawon dosbarth, dyma i chi 'Sêr yr Wythnos' am yr wythnos yn gorffen 24/6/16. Da iawn i chi gyd am eich hymdrechion!

Following nominations from class teachers, here are the 'Stars of the Week' for the week ending 24/6/16. Well done to you all for your efforts!

 

Dosbarth Miss Rh Jones  Bl 6 - ??? & ???

Dosbarth Mr Rh Jones  Bl 5 - Ashley & David

Dosbarth Miss L Williams Bl 4 - Lily H & Solomon

Dosbarth Mr A Morgan Bl 3 - Efa & Belle

Dosbarth Mrs C Williams Bl 2 - Gabe & Troy

Dosbarth Miss Rh Owen Bl 1&2 - Cameron & Steffan

Dosbarth Miss K Griffiths Bl 1 & Derbyn - ??? & ???

Dosbarth Mrs R Harris-Jenkins Derbyn  Coco & Harrison

Dosbarth Mrs K Jones - Meithrin ??? & ???

(24/6/16)

Ser yr Wythnos / Stars of the Week - 24/6/16

Cymro & Chymraes yr Wythnos - 24/6/16

Llongyfarchiadau i ddosbarth Bl 2 Mrs C Williams (100%) & dosbarth Bl 4 Miss L Williams (100%) ar ennill y wobr 'Presenoldeb Dosbarth' yr wythnos hon. Da iawn i chi gyd! / Congratulations to Mrs C Williams' Yr 2 class (100%) and Miss L Williams' Yr 4 class (100%) on winning the 'Class Attendance' award this week. Well done everyone! (24/6/16)

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Caitlyn (Bl 3) am lwyddo i ennill ei thystysgrif Gradd 3 Sgiliau Dŵr, ac i Steffan (Bl 2) am lwyddo i ennill ei dystysgrif nofio 20m. Mae'r gallu i nofio yn sgil holl bwysig felly daliwch ati! / Congratulation to Caitlyn (Yr 3) on being awarded her Grade 3 Water Skills certificate and to Steffan (Yr 2) on being awarded his 20m swimming certificate. The ability to swim is vitally important so keep up the good work!  (22/4/16)

Camp Cerddorol / Musical Achievement

Llongyfarchiadau i Rebecca (Bl 4) ar lwyddo yn ei arholiad Gradd 1 Theori Cerddoriaeth yn ddiweddar. Da iawn ti a dal ati! / Congratulations to Rebecca (Yr 4) on succeeding in her Grade 1 Music Theory exam recently. Well done and keep up the good work!  (15/4/16)

Nofio fel pysgodyn! / Swimming like a fish!

Llongyfarchiadau i Sara (Bl 2) ar ennill ei thystysgrif nofio 800m,  ac Osian (Bl 3) ar ennill ei dystysgrif arian am eu hymdrechion yn y pwll nofio. Daliwch ati! / Congratulations to Sara (Yr 2) on being awarded her 800m swimming certificate and to Osian (Yr 3) on being awarded his silver award certificate for their efforts in the pool. Well done both!  (18/3/16)

Gwirio Beiciau! / Bike Checking!

Llongyfarchiadau i Hannah (Bl 2) ac Oliver (Bl 3) ar ennill tystysgrifau am gwblhau cwrs 'gwirio beiciau' yn Halfords, gyda ffocws pendol ar ddiogelwch y ffordd. Da iawn chi! / Congratulations to Hannah (Yr 2) & Oliver (Yr 3) on being awarded certificates of achievement for completing a 'bike check' course at Halfords, with a particular emphasis on road safety. Well done both!  (18/3/16)  

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Ffion (Bl 3) ar ennill ei thystysgrif nofio, Cam 5 yn ddiweddar. Rhaid oedd dangos ystod o sgiliau nofio yn ogystal ag ateb cyfres o gwestiynau ar ddiogelwch dŵr er mwyn llwyddo, felly rwyt ti wedi gwneud yn arbennig o dda Ffion - da iawn ti! / Congratulations to Ffion (Yr 3) on being awarded her Stage 5 swimming certificate recently. She had to show her ability through a variety of skills as well as answer a series of questions on water safety so thoroughly deserves her reward. Da iawn ti!  (11/3/16)

Dawnsio Difyr! / Delightful Dancing!

Llongyfarchiadau i Megan (Bl 4) am ddod yn gyntaf mewn amrywiaeth o gystadlaethau dawnsio stryd ym Mhencampwriaeth Dawnsio Stryd yn Alton Towers yn ddiweddar. Enillodd Megan y gystadleuaeth unigol, deuawd, pedwarawd a grŵp. Tipyn o gamp! Da iawn ti! / Congratulations to Megan (Yr 4) on winning a variety of street dance competitions at the Street Dance Championships in Alton Towers recently. Megan won the individual, duet, quartet and group competitions. Quite an achievement! Well done!  (11/3/16)

Tarian y Cenawon / Cubs Shield

Llongyfarchiadau i Alexander (Bl 3) a Thîm Gwyrdd Cenawon Rhyddings Park ar ennill y darian tîm yn ddiweddar. Aelod angerddol a ffyddlon o'r grŵp, mae Alexander yn browd iawn o'u llwyddiant nhw. Da iawn chi gyd! / Congratulations to Alexander (Yr 3) and the Green Team from the Rhyddings Park Cubs group on winning the team award shield recently. A passionate and loyal member of the group, Alexander is quite rightly very proud of their achievement. Well done everyone!  (4/3/16) 

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Megan (Derbyn) am lwyddo i ennill ei thystysgrif 25m ac i Carys (Derbyn) am ennill ei thystysgrif 50m gyda'u hymdrechion yn y pwll nofio, Da iawn i'r ddwy ohonoch chi! / Congratulations to Megan (Reception) on being awarded her 25m swimming certificate and also to Carys (Reception) on being awarded her 50m swimming certificate. Well done both of you!  (4/3/16)

 

Rhedeg nerth ei draed! / Running flat out!

Llongyfarchiadau i Dafydd (Bl 5) a'i dîm rhedeg, Harriers Abertawe, am ddod yn drydydd ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Cymru ym Mharc Singleton yn ddiweddar. Tipyn o redwr, mae Dafydd yn amlwg yn dilyn ei chwaer gyda'i egni a'i dalentau. Dal ati! / Congratulations to Dafydd (Yr 5) and his running team, Swansea Harriers, on winning the recent Welsh Cross Country Championships at Singleton Park. An accomplished runner, he is clearly following in his sister's footsteps with his energy and talent. Keep up the good work Dafydd!  (4/3/16)  

Carate Campus! / Karate King!

Llongyfarchiadau i Leo (Bl 1) ar ennill amrywiaeth o fedalau ar draws ystod o gystadlaethau carate yn ddiweddar, gan gynnwys cystadlaethau grŵp, pâr ac unigol. Olympiwr y dyfodol efallai? Da iawn ti Leo! / Congratulations to Leo (Yr 1) on winning a variety of medals across a range of karate competitions recently, including group, pair and individual events. An Olympian of the future possibly? Well done Leo!  (12/2/16) 

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Osian (Bl 3) ar ennill ei dystysgrif nofio Efydd am ei ymdrechion yn y pwll yn ddiweddar. Da iawn ti Osian! / Congratulations to Osian (Yr 3) on being awarded his Bronze swimming certificate for his efforts in the pool recently. Well done Osian!  (5/2/16)

Hyfforddwr yr Wythnos / Trainer of the Week

Llongyfarchiadau i Sam (Bl 1) ar ennill y wobr 'Hyfforddwr yr Wythnos' am ei ymdrechion gyda'i dîm pêl droed, Sandfields FC. Dal ati gyda'r ymrech a'r agwedd bositif Sam! / Congratulations to Sam (Yr 1) on being awarded the 'Trainer of the Week' award by his football team, Sandfields FC. Keep up the effort and positive attitude Sam!  (5/2/16)  

 

Gymnasteg / Gymnastics

Llongyfarchiadau i Caitlyn (Bl 3) ar ennill ei thystysgrif Gymnasteg Cam 7. Mae hi wrth ei bodd yn y gampfa ac wedi dechrau gweithio tuag at ei thystysgrif Cam 6 yn barod. Da iawn ti! / Congratulations to Caitlyn (Yr 3) on being awarded her Stage 7 Gymnastics certificate. She thoroughly enjoys her time in the gymnasium and has already begun preparing for her Stage 6 already. Well done!  (22/1/16)

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Steffan (Bl 2), Darcie (Bl 3) a Caitlyn (Bl 3) ar ennill trawsdoriad o dystysgrifau am eu hymdrechion yn y pwll nofio yn ddiweddar. Da iawn chi a daliwch ati! / Congratulations to Steffan (Yr 2), Darcie (Yr 3) and Caitlyn (Yr 3) on being awarded a variety of swimming certificates for their efforts in the pool recently. Well done and keep up the good work!  (22/1/16)

Canu Campus! / Superb Singing!

Llongyfarchiadau i Sophia (Bl 6) ar lwyddo yn ei arholiad Gradd 2 Canu yn ddiweddar.  Yn ogystal â phasio'r arholiad,  llwyddod Sophia ennill anrhydedd am ei hymdrechion. Arbennig o dda! Dal ati. / Congratulations to Sophia on succeeding in her Grade 2 Singing examination recently. Not only did she pass the exam, but she was awarded a distinction for her efforts. Excellent news! Well done.  (15/1/16)

Llwyddiant Pêl droed / Football Success

Da iawn Isaac (Bl 5) am dderbyn tlws gan ei glwb pêl droed Sandfields FC am ei ymdrechion trwy gydol y tymor diwethaf. Cafwyd tymor llwyddiannus ar y cyfan, gyda disgwyliadau uchel am y flwyddyn i ddod. Da iawn! / Congratulations to Isaac (Yr 5) on being awarded a trophy for his efforts playing football for his club Sandfields FC last season. The team had a pretty good year and have high hopes for the coming season. Well done!  (15/1/16)

Ymroddiad! / Dedication!

Llongyfarchiadau i Ashleigh (Bl 5) ar ennill tlws 'mwyaf ymroddgar' ei chlwb Ju-jitsu am 2015. Mae Ashleigh wedi bod yn aelod o glwb Saru-jitsu am nifer o flynyddoedd ac yn dal i roi o'i gorau glas bob amser. Da iawn ti! / Congratulations to Ashleigh (Yr 5) on being awarded her Ju-jitsu club's 'most dedicated' trophy for 2015. Ashleigh has been a member of the Saru-jitsu club for a number of years and continues to give of her best all year round. Well done!  (15/1/16) 

Llwyddiant Gymnasteg / Gymnastics Success

Llongyfarchiadau i Iwan (Bl 2) ar gyrraedd Lefel 1 gymnasteg ynghŷd ag ennill bathodyn rhif 5 am ei ymdrechion. Dal ati i gyrraedd dy lawn potensial Iwan!  / Congratulations to Iwan (Yr 2) on achieving his Level 1 award in gymnastics along with badge number 5 for his efforts. Keep giving of your all Iwan!  (8/1/16)

Dawnsio Difyr! / Delightful Dancing!

Da iawn Brooke (Bl 2) am ennill tystysgrif 'Spinners' yn ddiweddar am ei hymdrechion yn ei chlwb 'Tiny Tots Ballet'. Mae Brooke wrth ei bodd yn dawnsio pob math o ddawnsfeydd ac yn datblygu ei sgiliau yn dda. Da iawn ti! / Well done Brooke (Yr 2) on being awarded her 'Spinners' certificate by her dance club 'Tiny Tots Ballet' recently. Brooke loves to dance all styles of dances and is clearly developing her skills well. Da iawn ti!  (8/1/16)

Llwyddiant Pêl droed / Football Success

Llongyfarchiadau i Lauren (Bl 3) & Liam (Bl 1) ar ennill medalau am gymryd rhan mewn gŵyl pêl droed yn ddiweddar. Hyfryd yw gweld cymaint o ddisgyblion yr ysgol yn cadw mor heini tu allan i'r ysgol. Da iawn chi'ch dau! / Congratulations to Lauren (Yr 3) & Liam (Yr 1) on winning medals by taking part in a recent football festival. It's wonderful to see so many of our pupils keeping so active outside of school. Well done both!  (8/1/16) 

Beicio Bendigedig! / Super Cycling!

Llongyfarchiadau i Imogen (Bl 2) ar ennill tlws am ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth seiclo Merched Dan 8 y 'Gower Riders', ei chlwb seiclo hi. Da iawn ti Imogen! / Congratulations to Imogen (Yr 2) on winning a trophy for coming third in a recent Under 8s Girls cycling completion with her cycling club 'Gower Riders'. Well done Imogen!  (8/1/16)

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Beca a Carys (Derbyn) ac Imogen (Bl 2) ar lwyddo yn y pwll nofio yn ddiweddar, gyda'r dair ohonyn nhw yn ennill tystysgrifau am eu hymdrechion. Daliwch ati i ddatblygu'r sgil holl bwysig hwn ferched. Da iawn chi! / Congratulations to Beca & Carys (Reception) & Imogen (Yr 2) on succeeding in the swimming pool recently with all three receiving various certificates for their efforts. Keep up the good work in developing these important skills. Well done!  (18/12/15) 

Carate Campus! / Karate King!

Llongyfarchiadau i Fred (Bl 4) ar gwblhau ei radd '7ed Kyu' gyda'i glwb carate yn ddiweddar.  Cystadleuwr brwdfrydig, edrychwn ymlaen at ddilyn cynnydd Fred wrth iddo barhau i ddatblygu. Da iawn ti! / Congratulations to Fred (Yr 4) on completing his '7th Kyu' grade with his karate club recently. A keen competitor, we look forward to following Fred's progress as he continues to develop his abilities. Well done!  (18/12/15)

Cenawon Prysur! / Busy Cubs!

Llongyfarchiadau i Lola, Lily H a Seren (Bl 4) ar ennill trawsdoriad o dystysgrifau am eu hymdrechion gyda'u grŵp Cenawod yn ddiweddar. Da iawn chi! / Congratulations to Lola, Lily H & Seren (Yr 4) on being awarded a variety of certificates for their efforts with their Cubs group recently. Well done girls! (18/12/15) 

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Megan (Bl 1) a Megan (Bl 2) ar ennill eu tystysgrifau nofio 'Pysgodyn Aur 3'. Hyfryd yw gweld cymaint o ddisgyblion yr ysgol yn datblygu'r sgiliau holl bwysig yma. Da iawn chi! / Congratulations to Megan (Yr 1) and Megan (Yr 2) on receiving their 'Goldfish 3' swimming certificates recently. It's wonderful to see so many of our pupils developing these vital skills. Well done both!  (27/11/15)

Perfformwyr hyderus! / Confident performers!

Llongyfarchiadau i Ria a Mia (Bl 4) ar ennill tystysgrifau am ddatblygu eu hyder wrth berfformio yn eu Clwb Celfyddydau Perfformio. Da iawn chi! / Congratulations to both Ria and Mia (Yr 4) on being awarded certificates for developing their confidence whilst performing at their Performing Arts Club. Well done!  (27/11/15)

Addewid y Brownies! / Brownie Promise!

Llongyfarchiadau i Madison (Bl 4) am wneud ei haddewid Brownies yn ddiweddar, ac am gychwyn ei thaith gyda'r chlwb arbennig hwn. Da iawn ti! / Congratulations to Madison (Yr 4) for making her Brownie promise recently, and for starting her journey with this great group. Well done!  (27/11/15) 

Gwregys yr wythnos / Belt of the week

Llongyfarchiadau i Lily H (Bl 4) ar ennill tlws 'Gwregys yr Wythnos' am ei hymdrechion yn ei chlwb carate yr wythnos hon. Da iawn ti Lily! / Congratulations to Lily H (Yr 4) on winning the 'Belt of the Week' award for her efforts at her karate club this week. Well done Lily!  (27/11/15) 

Arwisgiad! / Investiture!

Llongyfarchiadau i Conor (Bl 4) ar ei arwisgiad i glwb Cenawon 44ain Abertawe. Mae nifer o brofiadau cyffrous iawn yn dy wynebu di Conor. Pob lwc iti! / Congratulations to Conor (Yr 4) on his investiture into the 44th Swansea Branch Cubs group. Many exciting experiences lie ahead Conor. Best of luck!  (20/11/15) 

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Holly (Bl 2) ar ennill ei thystysgrif nofio Cam 4 gyda'i hymdrechion yn y pwll. Da iawn ti a dal ati!  / Congratulations to Holly (Yr 2) on being awarded her Stage 4 swimming certificate for her efforts in the pool. Well done and keep up the good work!  (13/11/15)

Arwisgiad! / Investiture!

Llongyfarchiadau i Lola (Bl 3) ar ei harwisgiad i glwb Cenawon 32ain Parc Rhyddings. Mae nifer o brofiadau cyffrous iawn yn dy wynebu di Lola. Pob lwc! / Congratulations to Lola (Yr 3) on her investiture into the 32nd Rhyddings Park Cubs group. Many exciting experiences lie ahead Lola. Best of luck!  (13/11/15) 

Bale Bendigedig! / Brilliant Ballet!

Llongyfarchiadau i Erin (Bl 1) ar ennill medalau aur am ei hymdrechion diweddar gyda'i chlwb bale. Hyfryd oedd gweld a chlywed Erin yn adrodd hanes ei llwyddiant gyda chymaint o falchder a gwen ar ei hwyneb. Da iawn ti! / Congratulations to Erin (Yr 1) on winning two gold medals for her efforts at her ballet club recently. It was wonderful to hear Erin describing her success with such pride and a big smile on her face. Well done!  (6/11/15)  

Pencampwraig nofio! / Swimming champion!

Llongyfarchiadau i Sian (Bl 6) ar ei llwyddiant yng nghystadleuaeth nofio diweddar. Nofwraig o fri, llwyddodd hi ennill dwy fedal aur, un arian a dwy efydd gyda'i hymdrechion. Da iawn ti!  / Congratulations to Sian (Yr 6) on her success at a recent swimming competition. An accomplished swimmer, she succeeded in winning two gold medals, a silver and two bronze with her efforts. Well done!  (23/10/15) 

Dawnswraig dawnus / Talented dancer

Llongyfarchiadau unwaith eto i Megan (Bl 4) ar ennill amrywiaeth o fedalau a thlysau am ei hymdrechion yn y byd dawnsio. Bu'n llwyddiannus iawn yn ddiweddar ym mhencampwriaeth ddawns ym Mhenarth, gyda dawnsfeydd unigol a gyda phartner. Da iawn Megan! / Congratulations to Megan (Yr 4) on winning a variety of medals and trophies for her efforts in the dance world. She was very successful at a recent dance competition in Penarth, in both individual and duet competitions. Well done Megan!  (23/10/15)

Traws gwlad / Cross country

Llongyfarchiadau i Jake (Bl 5) ar ennill y fedal aur ym mhencampwriaeth traws gwlad y 'cub scouts' yn ddiweddar, tra'n cynrychioli grŵp 32ain Parc Rhyddings. Da iawn ti Jake! / Congratulations to Jake (Yr 5) on winning the gold medal at the recent cub scouts cross country championships, whilst representing the 32nd Rhyddings Park Group. Well done Jake!  (23/10/15)

Llwyddiant nofio / Swimming success

Llongyfarchiadau i Oliver (Bl 2) ar ennill ei dystysgrif 'Pysgodyn Aur 3' am ei ymdrechion yn yn pwll nofio yn ddiweddar. Da iawn ti Oliver! / Congratulations to Oliver (Yr 2) on being awarded his 'Goldfish 3' certificate recently for his efforts in the pool. Well done Oliver!  (23/10/15)

Pencampwraig Ju-jitsu! / Ju-jitsu champion!

Llongyfarchiadau i Ashley (Bl 5) ar ennill y fedal aur ym mhencampwriaeth Ju-jitsu y Gogledd yng Nghaer yn ddiweddar. Mae Ashley yn cynrychioli clwb Saru-jitsu yn gyson ac yn amlwg yn rhagori yn ei champ - da iawn ti!  / Congratulations to Ashley (Yr 5) on winning the gold medal at the recent Ju-jitsu Northern Championships in Chester. Ashley represents the Saru-jitsu club on a regular basis and is clearly excelling in her sport -well done! (16/10/15) 

Techno Camp!

Llongyfarchiadau i Freya (Bl 5) ar ennill fedal efydd yn 'Techno Camp' yn ddiweddar am ei gwaith gydag amrywiaeth o dechnoleg. Da iawn ti Freya! / Congratulations to Freya (Yr 5) on winning a bronze medal at 'Techno Camp' recently for her work with various technology. Well done Freya!  (16/10/15) 

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Beca (Derbyn) ar ennill ei thystysgrif nofio 100m. Mae 100m yn tipyn o bellter Beca felly da iawn ti!/ Congratulations to Beca (Reception) on being awarded her 100m swimming certificate. That's quite a distance Beca - well done you! (16/10/15)

Seren Seiclo! / Cycling Star!

Llongyfarchiadau i Imogen (Bl 2) ar ennill tarian am ddod yn gyntaf yng nghyngrair Dan 6 oed Clwb Seiclo 'Gower Riders'. Dal ati Imogen! / Congratulations to Imogen (Yr 2) on winning a shield for coming first in the Gower Riders Cycling Club Under 6 cycling league. Keep up the good work Imogen! (9/10/15)  

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Osian (Bl 3) ar ennill ei dystysgrif nofio 1000m. Byddai rhedeg 1000m yn ddigon o gamp Osian ond mae llwyddo i nofio'r pellter yn hynod. Da iawn ti! /  Congratulations to Osian (Yr 3) on being awarded his 1000m swimming certificate. Running 1000m would be an achievement in itself but swimming that far is an incredible feat. Well done! you!  (9/10/15)

Gwregys Ju-jitsu / Ju-jitsu belt

Llongyfarchiadau i Oliver a Ferdi (Bl 2) ar ennill eu gwregysau gwyn gyda streipen oren am eu hymdrechion gyda'u clwb Saru-jitsu. Mae'r ddau ohonyn nhw yn mwynhau eu sesiynau wythnosol ac yn anelu am eu gwregysau nesaf yn barod. / Congratulations to both Oliver and Ferdi (Yr 2) on being awarded their white belts with an orange stripe for their efforts with their club, Saru-jitsu. Both boys thoroughly enjoy their weekly sessions and are already aiming for their next belt.  (9/10/15)

Llwyddiant Gymnasteg / Gymnastics Success

Llongyfarchiadau i Mali (Bl 1) ar ennill casgliad o fedalau a tharian am ei hymdrechion yn y byd gymnasteg yn ddiweddar. Mae Mali wrth ei bodd yn neidio, rolio a chreu pob math o siapiau and yn amlwg yn llwyddo. Da iawn ti!  / Congratulations to Mali (Yr 1) on winning a collection of medals and a shield for her efforts in gymnastics recently. Mali thoroughly enjoys jumping, rolling and creating all sorts of shapes and is clearly excelling. Well done!  (2/10/15)

Archseren! / Superstar!

Llongyfarchiadau i Iwan (Bl 2) ar ennill fedal 'Gweithgaredd Cymru' am redeg nerth ei draed yn ddiweddar. Da iawn ti Iwan! / Congratulations to Iwan (Yr 2) on winning an 'Activity Wales' medal for his running prowess recently. Well done!  (2/10/15)

Triathletwr o fri! / Outstanding Triathlete!

Llongyfarchiadau mawr i Dafydd (Bl 5) ar ei lwyddiant yn y byd Triathlon yn ddiweddar. Mabolgampwr talentog a brwdfrydig, mae Dafydd wedi cystadlu mewn sawl 'duathlon' a thriathlon yn ddiweddar, gyda'i gyfanswm pwyntiau yn ddigon i ennill y fedal aur yng Nghyfres Triathlon Iau De Cymru. Tipyn o gamp Dafydd - da iawn ti!  / Congratulations to Dafydd (Yr 5) on his recent success in the triathlon world. A very fit and enthusiastic sportsman, Dafydd has taken part in a number of duathlons and triathlons, and his points tally has resulted in his coming second in the South Wales Junior Triathlon Series. Quite an achievement Dafydd - well done!  (25/9/15)  

Llwyddiant Piano / Piano Success

Llongyfarchiadau mawr i Sophia (Bl 6) ar lwyddo yn ei arholiad piano - Gradd 2 yn ddiweddar. Mae hi wedi bod yn canu'r piano ers sawl blwyddyn bellach ac yn profi pa mor bwysig yw dyfalbarhau. Da iawn ti Sophia! / Congratulations to Sophia (Yr 6) on succeeding with her Grade 2 piano exam recently. She has been playing the piano for a number of years and proves that it pays to persevere. Well done Sophia!  (25/9/15)

Ras 10K Bae Abertawe / Swansea Bay 10K

Llongyfarchiadau i Imogen ac Holly (Bl 2) ac i Dafydd (Bl 5) ar ennill medalau am gwblhau ras Iau Bae Abertawe ar Ddydd Sul. Da iawn chi! / Congratulations to Imogen and Holly (Yr 2) and to Dafydd (Yr 5) on winning medals for completing the Junior race in Sunday's 10K event. Well done all!  (25/9/15)

Llwyddiant Nofio / Swimming Success

Llongyfarchiadau i Martha (Derbyn) ar ennill ei thystysgrif 'hwyad fach - gradd 1' yn y pwll nofio yn ddiweddar. Y camau (strociau) cyntaf yw'r pwysicaf Martha felly da iawn ti a dal ati! / Congratulations to Martha (Reception) on being awarded her 'Duckling - Grade 1 award' in the swimming pool recently. Those first steps (or strokes) are the most important Martha so well done and keep up the good work!  (18/9/15)

Dawnswyr Dawnus / Talented Dancers

Llongyfarchiadau i Caitlyn (Bl 3) ar lwyddo yn ei arholiad Dawns - Gradd 1 ac i Jessie (Bl 6) ar ennill medal efydd yng Nghŵl Ddawns Dewi Sant yn ddiweddar. Hyfryd yw gweld ein disgyblion yn llwyddo mewn trawsdoriad o feysydd. Da iawn chi ferched! / Congratulations to both Caitlyn (Yr 3) on passing her Grade 1 Dance exam and to Jessie (Yr 6) on winning a bronze medal at the recent St David's Dance Festival. It's wonderful to see our pupils succeeding in so many fields. Well done girls!  (18/9/15)

Gŵyl Nofio / Swimming Festival

Llongyfarchiadau i Conor ar ei lwyddiant diweddar yn ennill medal yng ngŵyl nofio lleol gyda'i glwb nofio, Siarcod Abertawe. Dal ati Conor! / Congratulations to Conor on his success at a recent swimming festival with his swimming club, Swansea Sharks. Keep up the good work Conor! (18/9/15)

Llwyddiant Ju-jitsu / Ju-jitsu success

Llongyfarchiadau i Ferdi (Bl 2) ar ei lwyddiant mewn cystadleuaeth Ju-jitsu gyda'i glwb Saru-Jitsu yn ddiweddar. Mae Ferdi yn mynychu'r clwb gyda nifer o'i ffrindiau yn wythnosol ac yn mwynhau mas draw. Da iawn ti! / Congratulations to Ferdi (Yr 2) on his success in a Ju-jitsu competition with his club Saru-Jistu recently. Ferdi attends the club on a weekly basis with his friends and thoroughly enjoys himself. Da iawn ti!  (11/9/15)

Her ddarllen / Reading challenge

Llongyfarchiadau i Matthew (Bl 2) ar lwyddo i gwblhau Her Ddarllen yr Haf yn ei lyfrgell lleol. Hyfryd oedd gweld cymaint o ddisgyblion yn dangos eu mwynhad o lyfrau a gwerthfawrogiad am ein llyfrgelloedd. Da iawn ti Matthew! / Congratulations to Matthew (Yr 2) on completing this year's Reading Challenge. It's been wonderful seeing so many of our pupils showing their love of books and an appreciation of our libraries. Well done Matthew!  (11/9/15)

Nofio fel pysgodyn! / Swimming like a fish!

Llongyfarchiadau i Carys (Bl 1) ar ennill medal am ei gwaith a'i hymdrechion yn y pwll nofio yn ddiweddar. Mae nofio yn sgil holl bwysig ac yn un lle mae Carys yn amlwg yn rhagori. Da iawn ti!  / Congratulations to Carys (Yr 1) on winning a medal recently for her hard work and effort in the swimming pool. Swimming is a vital skill and one that Carys is certainly excelling at. Well done!  (11/9/15)

Hyforddwr yr Wythnos / Trainer of the Week

Llongyfarchiadau i Sam (Bl 1) ar ennill tlws 'Hyfforddwr yr Wythnos' am ei ymdrechion gyda'i glwb pêl-droed Sandfields FC. Da iawn Sam a dal ati i! / Congratulations to Sam (Yr 1) on winning the 'Trainer of the Week' award at his football club Sandfields FC. Well done Sam and keep up the good work!  (4/9/15)

Her Ddarllen / Reading Challenge

Llongyfarchiadau i Abi (Bl 1), Emily (Bl 2), Imogen (Bl 2) a Lauren (Bl 3) ar gyflawni yr her ddarllen cenedlaethol dros yr haf. Mae'r bedair yn ddarllenwyr brwd a derbyniodd pob un ohonyn nhw dystysgrif a medal am eu hymdrechion. Da iawn chi! / Congratulations to Abi (Yr 1), Emily (Yr 2), Imogen (Yr 2) and Lauren (Yr 3) on completing this year's national reading challenge over the summer holidays. All four are avid readers and each pupil received a certificate and medal for their efforts. Well done girls!  (4/9/15)