Beth ddysgon ni am forgrug yr wythnos yma?
Ffaith rhifedd yr wythnos
Gwir neu anwir?
Os ydych chi'n lluosi odrif gydag odrif mae'r ateb yn odrif bob tro!
e.e. 7 x 3 = 21
Beth am luosi dau eilrif gyda'u gilydd?
e.e. 8 x 4 = 24
Beth am luosi eilrif gydag odrif?
Arbrofwch...
Ffaith Rhifedd yr Wythnos!
Mae tablau yn gallu cael eu gosod mewn i deuluoedd.
Mae rhifau sydd yn nhabl tri yn hawdd eu hadnabod. Os ydych chi'n adio digidau unrhyw rhif ac yn cael ateb sydd ym nhabl tri, mae'r rhif yn nhabl tri.
e.e. 5674
5 + 6 + 7 + 4 = 22
Dydy 22 ddim yn nhabl 3, felly dydy 5674 ddim yn nhabl tri.
4563
4 + 5 + 6 + 3 = 18
Mae 18 yn lluosrif o 3, felly mae 4563 yn lluosirf o 3.
The numbers which are multiples of 3 have digits which add up to a number which is a multiple of 3. In the above example the sum of the digits of 5674 is 22, therefore 5674 is not a multiple of 3. The sum of the digits of 4563 is 18 which is a multiple of 3, therefore 4563 is a multiple of 3.
Os ydych am rannu gyda 5, rhannwch gyda 10 a dyblwch!
To divide by 5, divide by 10 and double!
e.e. 50 / 5 = 50 / 10 x 2 = 10
A'i wynt yn ei ddwrn
e.e.
Ar ol sylweddoli ei bod yn hwyr, rhedodd Eleri yr holl ffordd i'r parti a chyrhaeddodd a'i gwynt yn ei dwrn.
Os ydych am haneru rhif 3 digid, hanerwch y cannoedd yn gyntaf, wedyn y degau, wedyn yr unedau. Nawr adiwch y tri rhif.
e.e. hanner 246 = 100 + 20 + 3 = 123
hanner 348 = 150 + 20 + 4 = 174
hanner 753 = 350 + 25 + 1.5 = 376.5
Cawsom lawer iawn o hwyl yn gweld sut maen nhw'n gwneud siocledi. Cawsom gyfle i flasu llawer o'r siocled ar y daith. Roedd hi'n daith flasus dros ben!
Yn bendramwnwgl
Cwympodd y llyfrau allan o'r bag yn bendramwnwgl i'r llawr.
Sawl brawddeg fedrwch chi eu defnyddio sy'n cynnwys yr idiom 'yn bendramwnwgl'?
Er mwyn lluosi rhif gyda 10, symudwch y digidau i gyd un cam i'r chwith heb symud y pwynt degol. Os oes gennych fwlch ynh ngholofn yr unedau, rhowch sero yn y bwlch.
To multiply a number by 10, move the digits one place to the left without moving the decimal point. If you have a gap in the units column, put a zero in the gap.
45 x 10
450
Idiom yr Wythnos
A'i ben yn ei blu (yn drist ac yn benisel)
Ar ol clywed bod Yr Elyrch wedi colli'r gem 7-0, eisteddodd Gareth yn dawel a'i ben yn ei blu.
Sawl gwaith fedrwch chi ddefnyddio hwn mewn brawddeg yr wythnos hon?
Ffaith Rhifedd yr Wythnos
17/3/14
I adio 90, adiwch 100 a thynnwch 10.
To add 90, add 100 and take away 10.
Ein thema ar gyfer yr hanner tymor hwn fydd Bwydydd Blasus Byd Eang. Byddwn yn edrych ar wahanol wledydd a'r mathau o fwyd y maent yn ei fwyta ynddynt. Bydd cyfle i rieni ddod i flasu'r bwyd a phrynu yn ein caffi ddiwedd y tymor.
Our theme for this half term is Global Gourmet. We shall be learning about different foods in different countries and there will be a chance for parents to come and taste the food and buy in our cafe at the end of term.
Ffaith rhifedd yr wythnos - 17/2/14
I luosi â 5, mae angen lluosi â 10 a haneru.
e.e. 46 x 5
= 46 x 10 rhannu â 2
= 460 rhannu â 2
= 230
Cafodd bawb amser wrth eu bodd yn Techniquest Ddydd Iau diwethaf. Roedd arbrofi a darganfod yn llawer iawn o hwyl!
Everyone had a wonderful time in Techniquest on Thursday. Experimenting and discovering was great fun!
Mwynhau yn y Parti Nadolig
Gallwch luosi 4 drwy dwbli a dwbli eto, e.e.
4 x 3 = 12
Dwbl 3 = 6
Dwbl 6 = 12
Beth am geisio lluosi'r rhifau yma gyda 4?
5
4
7
9
12
18
22
87
Croeso i Flwyddyn 4 - Dosbarth Miss Williams
Welcome to Year 4 – Miss Williams’ Class
Ein Dosbarth Ni / Our Class
Erbyn hyn, rydym wedi dechrau ymgartrefu yn ein dosbarth ac yn edrych ymlaen at dymor sy’n llawn hwyl a gwaith! Thema yr hanner tymor yw ‘Asiantau Teithio’ a byddwn yn dysgu sut i fynd ati i drefnu gwyliau ac am wahanol wledydd ar draws y byd, yn ogystal â dysgu am ein hardal ni a’r hyn sy’n denu twristiaid yma.
Rydym am ddathlu’n hoff lyfrau ac mae rhai plant wedi bod wrthi’n brysur dros y gwyliau yn cyflawni her llyfrgelloedd Abertawe drwy ddarllen chwech llyfr. Rydym yn edrych ymlaen at glywed am hoff storiau a chymeriadau’n gilydd wrth i ni drafod yr hyn sy’n gwneud stori dda!
We have all settled well in our class and we are looking forward to a term which is both fun and work filled! Our theme for this half term is ‘Travel Agencies’ and we shall we learning how to arrange a holiday and about contrasting places around the world, as well as our locality and its tourist attractions.
We shall be celebrating our favourite books and some children have been busy over the holidays, fulfilling the Libraries Challenge of reading six books over the Summer. We’re looking forward to hearing about one another’s favourite stories and characters and discussing what makes a good story!