2024-2025
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion y dosbarth Derbyn am gyflawni sialens rhigymau Pori Drwy Stori! Braf gweld pawb yn perfformio'n hyderus o flaen cynulleidfa dda o rieni a ffrindiau'r ysgol! Gwych!
Congratulations to our Reception pupils for competing the Pori Drwy Stori Rhyme Challenge! It was great to see all pupils performing so confidently! Excellent work!
Diwrnod Shw’ Mae Sut Mae? 15/10/24
Diolch i’r Pwyllgor Cymreictod am hyrwyddo’r Gymraeg yn yr ysgol ac yn y gymuned! 🏴❤️Thank you to the Welsh Language Committee for their work today in promoting the Welsh Language in school and in the community!
Rhieni/Warcheidwaid! Parents/Guardians!
Os hoffech ddysgu Cymraeg, cliciwch ar y ddolen isod!
If you'd like to learn Welsh, click on the link below!
2023-2024
Dyma gân newydd gan Eden, Band y Mis! This month's band have released a new song! "Caredig"
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Diweddglo gwych i’r flwyddyn! Balch iawn o gyhoeddi ein bod wedi ennill Gwobr Arian y Siarter Iaith! Diolch i bawb am eu gwaith caled. Ymlaen i’r Aur nawr!
What a fantastic way to end the year! Very proud to announce that we have won the Silver Language Charter Award! Thanks to everyone for their hard work. Onwards towards the Gold now!
Beth yw Tafod Tawe? What is Tafod Tawe?
Ar Fedi 16eg 2016, lansiwyd Siarter Iaith ysgolion Cymraeg Mamiaith Abertawe, sef Tafod Tawe.
Pwrpas a nod Tafod Tawe yw ysbrydoli plant a phobl ifanc Abertawe i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau a gwneud iddynt sylweddoli bod manteision addysgol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth siarad Cymraeg a bod yn ddwyieithog.
Cofiwch ymweld â’r dudalen hon yn gyson er mwyn gweld rhai o’r gweithgareddau sy’n digwydd yn Ysgol Gymraeg Bryn y Môr.
On 16 September 2016, the Welsh charter for first language Welsh schools in Swansea, Tafod Tawe, was launched.
The purpose and aim of Tafod Tawe is to inspire children and young people in Swansea to use Welsh in every aspect of their lives and make them realise that there are benefits educationally, socially, economically and culturally, to speaking Welsh and being bilingual.
Visit this page regularly to see some of the activities that take place at Ysgol Bryn y Môr!