Croeso i Ddosbarth Bl. 2
Mrs C. Williams
a Mrs Bevan
Dilynwch ni ar Twitter
Follow us on Twitter
@YGGBYMCWilliams
Tymor yr Haf (ii) 2016
Thema'r tymor: Garddwyr Gwyrdd
Summer Term (ii) 2016
Theme: Green Gardeners!
Diolch yn fawr i Mr Stallard am ddod i drafod a dangos ei waith celf gwych!
A big thank you to Mr Stallard for showing us his excellent art work!
Cofiwch am ein ymweliad â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Llun 27/6/16
Don't forget about our visit to the National Botanic Garden of Wales on Monday 27/6/16
Gwaith Cartref Sillafu
Spelling Homework
Heriau Dewch i Feddwl
Let's Think Challenges
Her Dewch i Feddwl 24/6/16 Let's Think Challenge
Her rhyngweithiol i chi! An interactive challenge!
http://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2010-11/maths/awen-robot-factory/lluosi-a-rhannu.html
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Tymor yr Haf (i)
Thema'r tymor: Dewch i Forio!
Summer Term (i)
This term's theme: Land Ahoy!
Pa gwch all gario'r mwyaf o bwysau cyn suddo? Dewch i ni gael arbrofi!
Which boat can carry the most weight before sinking? Let's investigate!
Dewch i ddarllen ein e-straeon!
Click on the books below to read our e-stories!
PWYSIG! IMPORTANT!
Mae angen deunyddiau jync addas i greu cychod ar gyfer Sglod y ci! Ewch ati i'w casglu os gwelwch yn dda!
We need suitable junk materials to create boats for Sglod the dog! Please collect and send to school as soon as possible!
Diogelwch ar y ffordd / Road Safety
Dyma ni'n dysgu sut i groesi'r ffordd yn ddiogel gyda Kerbcraft. Diolch yn fawr i fam Joseph am wirfoddoli i helpu. Os ydych ar gael i'n helpu ar fore Mawrth, rhowch wybod os gwelwch yn dda! Byddwn yn gwerthfawrofi eich cymorth yn fawr.
Here we are learning to cross the road safely with Kerbcraft. Thank you to Joseph's mum for volunteering to help us. If you are able to help us on a Tuesday morning, please let us know. Your help would be very much appreciated.
Ysgrifennu portread o Gapten Llong!
Writing a pen portrait of a Ship's Captain!
Mwynhau astudio stori 'Sglod ar y Môr'
Enjoying studying the story 'Sglod ar y Mor'
Am stori dda! Rydyn wedi mwynhau darllen y stori ac ysgrifennu diweddglo diddorol. Mae'n hwyl defnyddio'r 'sbectol sylwi' i wirio ein gwaith!
What a good story! We've enjoyed listening to the story and writing our own endings. Here we are using our 'special spectacles' to check our work!
Heriau Dewch i Feddwl
Let's Think Challenges
Gwaith Cartref Sillafu
Spelling Homework
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Tymor y Gwanwyn (ii) 2016
Spring term (ii) 2016
Ein thema am yr hanner tymor fydd:
Our theme for this half term is:
Carnifal! / Carnival!
Efelychu gwaith Beatriz Milhazez o Frasil a chreu colaj lliwgar fel carnifal!
Emulating the style and work of the Brazilian artist Beatriz Milhazez, to create a carnival themed collage!
Astudio dathliadau amrywiol ar draws y byd a chreu set o gardiau cystadlu.
Studying various celebrations across the world and creating a set of 'top trump' cards.
Llwyddiant yn yr Eisteddfod Gylch!
Success at the 'Eisteddfod Gylch!'
Da iawn i bawb am berfformio mor arbennig o dda yn yr Eisteddfod Gylch! Llongyfarchiadau mawr i Bethan am ennill y llefaru dan 8, ac am ddod yn drydydd yn y canu dan 8 hefyd! Llongyfarchiadau mawr hefyd i Jasmine am ennill yr ail wobr yn y canu a'r llefaru dan 8! Gwych! Pob hwyl i Bethan yn y Sir ac i bawb arall o blant Bryn y Môr a fydd yn cystadlu!
Well done everyone for performing so well in the 'Eisteddfod Gylch!'
Congratulations to Bethan for winning 1st prize in the individual recitation competition and also for winning 3rd prize in the individual singing competition! Congratulations also to Jasmine for winning 2nd prize in both the singing and reciting competitions! Fantastic! We wish Bethan and all the other Bryn y Môr pupils the best of luck at the County Eisteddfod!
Newyddion Cyffrous! Exciting News!
Mae siop gwisg ffansi a thynnu llun y dosbarth wedi agor heddiw! Bu pawb yn brysur yn paratoi'r siop ac yn meddwl am enw addas, a'r enw a enillodd y mwyaf o bleidleisiau oedd 'Lluniau Llon!'Diolch i Mr Scourfield am ddod i agor y siop yn swyddogol!
Our class fancy dress and photo booth shop has opened today! We've been busy preparing the shop and deciding on a suitable name. We held a class vote, and the name that won the most votes was 'Lluniau Llon!' Thanks to Mr Scourfield for attending the official opening!
NEWYDDION CYFFROUS!
Cofiwch am ymweliad 'Bongo Clive' ar Ddydd Llun 22/2/16.
EXCITING NEWS!
Bongo Clive will be visiting us on Monday 22/2/16
Heriau 'Dewch i Feddwl'
'Let's Think' Challenges
Beth am roi cynnig ar rhain?
What about trying these?
Gwaith Cartref Sillafu
Spelling Homework
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!
A Happy New Year to you all!
Tymor y Gwanwyn 2016
Spring Term 2016
Ein thema y tymor yma yw: / Our Theme this term is:
Y Byd Mawr Crwn!
Big Wide World!
I'ch Atgoffa! A Reminder!
Ymweliad â thraeth Abertawe -Prynhawn Mawrth 2/2/16. Bydd angen cot gynnes!
Dychwelwch y ffurflen ganiatad cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda.
Visit to Swansea Beach - Tuesday Afternoon 2/2/16. You will need a warm coat!
Please return consent form a.s.a.p.
Astudio'r Tywydd / Studying the Weather
Rydyn wedi dechrau astudio'r tywydd ac yn cadw cofnod dyddiol. Mae'r gwaith o gyflwyno'r tywydd wedi cychwyn! Galwch nôl yn fuan i wylio rhagolygon y tywydd!
We are studying the weather and are keeping a daily record. We've also started planning our weather forecast programme. Remember to visit this page soon to watch our weather forecasts!
Mae'r thema wedi dechrau gyda chymorth stori "Aeth Mamgu i'r Farchnad." Roedd anrheg arbennig wedi ei adael i ni yn y dosbarth hefyd ac rydyn ni'n ysu am gael defnyddio ein carped hud! Cofiwch fynd ati i ddewis y wlad yr hoffech deithio iddi a dychwelyd eich pleidlais mor fuan ag sy'n bosibl!
The theme has begun with the help of the storybook "Aeth Mamgu i'r Farchnad" ('My Granny Went to Market.") A lovely present was also left for us in our classroom and we can't wait to begin using our magic carpet! Remember to choose the country that you would like to visit and return your voting slips as soon as possible!
Heriau Dewch i Feddwl!
Let's Think Challenges!
Dewch i drio'r gweithgareddau ymestynnol ar-lein a dysgu darllen y cloc.
Why not try these challenging on-line activities and learn to tell the time.
http://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2010-11/maths/awen-robot-factory/amser.html
Gwaith Cartref Sillafu
Spelling Homework
Ein Thema am yr hanner tymor nesaf yw
'Enfys Trydan!'
Our theme for the next half term is
'Electric Rainbow!'
Mae problem â'r cyflenwad trydan yng Ngwlad yr Iâ ac mae'n dywyll iawn yno! Tybed allwn ni helpu?
There is a problem with the electricity supply in the North Pole and it is very dark! Can we help Father Christmas?
Neges i'ch Atgoffa! A Reimnder!
A fyddech mor garedig â danfon gwisg eich plentyn ar gyfer ein Sioe Nadolig i'r ysgol ar Ddydd Llun 7fed o Ragfyr? Cofiwch labelu'r bag a'r dillad yn glir! Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth!
Would you please be so kind as to send your child's costume for the Christmas Concert to school on Monday, 7th December? Please remember to label the bag and every item of clothing clearly. Thank you very much for your support!
Dewch i'r Ffair Nadolig i brynu ein "Goleuni Gwych!"
Buy our "Lovely Lights" at the Christmas Fair!
Newyddion Cyffrous!!
Ymddangosodd parsel a llythyr yn ein dosbarth heddiw oddi wrth y bachgen yn stori "Sut i Ddal Seren." Roedd yn gofyn am ein cymorth i greu seren iddo! Aethom ati ar unwaith i geisio datrys y broblem!
Exciting News!!
A parcel and letter appeared in our classroom this morning! It was sent by the boy in the "How to Catch a Star" story. He needed our help to create a star for him. We tried our best to solve the problem!
Gŵyl Diwali - Gŵyl y Goleuni / Diwali - The Festival of Lights
Dyma ni'n mwynhau dysgu am yr ŵyl - creu ac addurno potiau difa, coginio losin barffi, cyflwyno gwybodaeth ac ysgrifennu barddoniaeth.
Here we are learning about the festival of lights - making and decorating diva lamps, cooking barfi sweets, presenting information and writing poetry.
Gwaith Cartref Sillafu
Spelling Homework
Heriau Dewch i Feddwl
Let's Think Challenges
Her 12/11/15 Challenge
Beth am ymchwilio ymhellach ar lein i odrifau ac eilrifau?
What about trying out these online activities to find out more about odd and even numbers?
http://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/explore_num_seq/cym/Cyflwyniad/MainSessionPart1.htm
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Ein thema y tymor hwn yw 'Albwm y Teulu.'
This term's theme is 'Family Album'
I'ch atgoffa: A reminder:
Gwersi Datblygiad Corfforol: Dydd Mercher ac Iau.
Physical Development lessons: Wednesday and Thursday.
Rydyn ni angen eich cymorth!
We need your help!
Rydym am ddysgu mwy am fywyd plant yn y gorffennol, ac wedi bod yn creu holiadur ar gyfer aelodau hŷn y teulu. A fyddech mor garedig ag ateb y cwestiynau yn yr holiadur os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr! Cliciwch ar y ddolen isod.
We would like to learn more about children's lives in the past, and we have created a questionnaire for the older members of our families. Would you please be so kind as to answer the questions please? Thank you very much! Click on the link below.
Cofiwch ein bod yn dathlu Diwrnod T Llew Jones ar y 12fed o Hydref. Mae'r paratoadau wedi cychwyn! Edrychwn ymlaen at gyflwyno ein pennill am y lliw 'coch' i gerdd fawr yr ysgol! Dillad coch Ddydd Llun os gwelwch yn dda!
Please remember that we are celebrating ' Diwrnod T Llew Jones' on the 12th October. The preparations have begun! We look forward to presenting our verse based on the colour 'red' to the whole school poem. Red clothes on Monday please!
Diolch yn fawr i Gruff am ymweld â ni heddiw! Dysgom ni lawer am fabanod a sut yr ydym ni'n newid ac yn datblygu wrth fynd yn hŷn.
A big thank you to Gruff for visiting us today! We learned a great deal about the way we change and develop as we get older.
Mae'r gwaith o gyflwyno ein coed teulu wedi dechrau yn barod! Da iawn chi!
The task of presenting our family trees has begun! Well done!
Diolch am ddanfon lluniau o'r teulu i'r ysgol. Rydyn ni wedi mwynhau eu defnyddio yn y dosbarth!
Thank you for sending family pictures to school. We have enjoyed using them in class!
Hwyl a sbri yn ystod wythnos 'Llai o wastraff, mwy o fywyd!'
Buom yn creu teganau o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu ac yn chwarae gemau gwyrdd ar y buarth!
Fun and games during 'Less Waste, live more' week!'
We made toys from recycled materials and played 'green games' on the yard!
Cofiwch am ein taith i San Ffagan ar Ddydd Llun y 14eg o Fedi. Bydd angen cot law a pecyn bwyd. Byddwn yn cael dysgu am hen deganau o bob math!
Don't forget about our visit to St Fagans museum on Monday 14th September. Remember to bring a raincoat and packed lunch. We shall be learning about toys from the past.
Dyma ni'n dod i adnabod ein gilydd yn well. Diolch am weithio'n galed i lenwi eich bocsys â llwyth o bethau diddorol!
Here we are getting to know each other a little better. Thank you for filling your boxes with very interesting items.
Heriau Dewch i Feddwl!
Let's Think Challenges!
Beth am roi cynnig ar rai o'r heriau yma?
What about trying out these challenges?
Her Dewch i Feddwl 15/10/15 Let's Think Challenge
Beth am ymarfer eich sgiliau amcangyrfrif hyd?
What about practising your length estimating skills?
http://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2010-11/maths/awen-robot-factory/amcangyfrif.html
Beth am drio'r weithgaredd yma? Cliciwch ar lefel 1. Why not try this online activity? Try level 1.
http://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2010-11/maths/awen-robot-factory/bondiau-rhif.html
Gwaith Cartref Sillafu
Spelling Homework
Cewch restr o eiriau ar Ddydd Gwener i'w dysgu erbyn y dydd Gwener canlynol.
A list of words will be given on Friday to learn by the following Friday.