Mae gan bob plentyn yn Ysgol Gymraeg Bryn y Môr ddawn arbennig, p'un ai yn y byd academaidd, chwaraeon, cerddoriaeth, celfeddydol neu rhyw faes arall. Yn ogystal â phwysleisio hyn ar lawr y dosbarth, mae ein 'Gwasanaeth Gwobrwyo' pob Dydd Gwener yn gyfle i ddathlu'r llwyddiannau hyn hefyd. Dyma i chi rhai o'n sêr diweddar ni! / Every child at Ysgol Gymraeg Bryn y Môr has a special talent, be it academic, sporting, musical, artistic or in another field. In addition to emphasising this in the classroom, our 'Celebration Assembly' every Friday is an opportunity to celebrate these successes as well. Here are some of our most recent stars!
Sêr yr Wythnos / Stars of the Week
Yn dilyn enwebiadau gan yr athrawon dosbarth, dyma i chi 'Sêr yr Wythnos' am yr wythnos yn gorffen 4/7/14. Da iawn i chi gyd am eich hymdrechion!
Following nominations from class teachers, here are the 'Stars of the Week' for the week ending 4/7/14. Well done to you all for your efforts!
Dosbarth Miss Rh Jones Bl 6 - ??? & ???
Dosbarth Mr Rh Jones Bl 5 - ??? & ???
Dosbarth Miss L Williams Bl 4 - Elin & David
Dosbarth Mr A Morgan Bl 3&4 - Daisy & Keira
Dosbarth Miss K Williams Bl 3 - Harry & Morgan
Dosbarth Mrs C Williams Bl 2 - Megan & Archie
Dosbarth Miss Rh Owen Bl 1&2 - Lily & Jenson
Dosbarth Miss K Griffiths Bl 1 & Derbyn - Maya & Austen
Dosbarth Mrs R Harris-Jenkins Derbyn - Noah & Steffan
Dosbarth Miss R M Jones & Mrs K Martin Meithrin - dydy plant y Meithrin ddim yn mynychu ein gwasanaethau gwobrwyo yn eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol. / Nursery pupils don't attend our celebration assemblies in their first year at school. (4/7/14)
Llwyddiant Piano / Piano Success
Llongyfarchiadau mawr i Millie (Bl 5) ar lwyddo yn ei arholiad Gradd 3 yn ddiweddar. Hyfryd yw gweld yr holl waith a dyfalbarhad yn talu ffordd. Da iawn Emily a dal ati! / Congratulations to Millie (Yr 5) on passing her Grade 3 piano exam recently. It's wonderful to see all that hard work and perseverance paying off. Da iawn Emilyn a dal ati! (7/7/14)
Y canlyniadau -Fe fydd y plant yma yn cynrychioli'r ysgol yn y rownd derfynol ar y 7fed o Orffennaf. Pob lwc iddynt
Ras wib blwyddyn 3
Alfie -1af
Daisy -1af
Ras wib blwyddyn 4
Sonny -1af
Y clwydi
Lowri - 2il
Ras 800m bl6
William - 2il
Taflu pwysyn bl 6
Noah Humphreys - 1af
Y Gerdd Fawr! / The Big Poem!
Llongyfarchiadau i ddosbarth Bl 2 Mrs C Williams ar gael eu cerdd nhw wedi ei gynnwys yng ngherdd fawr Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog. Hyfryd oedd clywed y gerdd yn cael ei ddarllen yn fyw ar faes Eisteddfod yr Urdd ac ar y teledu. Os na glywsoch chi'r gerdd, dyma i chi'r ddolen gyswllt: http://barddplantcymru.co.uk/y-gerdd-fawr/ / Congratulations to Mrs C Williams' Yr 2 class on having their class poem chosen by Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru to be a part of his 'Big Poem'. It was wonderful to hear the poem being read aloud at the Urdd National Eisteddfod and also being broadcast on S4C. If you didn't get a chance to hear it, here's the link: http://barddplantcymru.co.uk/y-gerdd-fawr/ (28/5/14)
Llwyddiant Piano / Piano Success
Llongyfarchiadau i Iola (Bl 4) ar lwyddo yn ei arholiad Gradd 1 piano yr wythnos hon. Mae gwaith caled a dyfalbarhad yn talu ffordd! Da iawn ti Iola! / Congratulations to Iola (Yr 4) on succeeding in her Grade 1 piano exam this week. Hard work and perseverance pays! Well done Iola! (23/5/14)
Seren Chwaraeon! / Sports Star!
Mae Dafydd (Bl 3) wedi bod yn brysur iawn mewn nifer o feysydd chwaraeon yn ddiweddar. Yn ogystal â'i seiclo, cystadlodd Dafydd mewn 'duathlo' lle bu rhaid iddo rhedeg, seiclo a rhedeg unwaith eto er mwyn cwblhau'r ras. Mae hefyd wedi cael ei gyflwyno gyda thlws gan ei dîm pêl-droed lleol am ei ymdrechion a'r y cae pêl-droed y tymor hwn. Dau neu dri weetabix i frecwast Dafydd? / Dafydd (Yr 3) has been extremely busy of late in a number of sports fields. In addition to his cycling, he has taken part in a duathlon, where he had to run, cycle and then run once again in order to complete the race. He has also been awarded a trophy by his local football team for his efforts on the football field this season. Is that two or three weetabix for breakfast Dafydd? (23/5/14)
Llwyddiant Nofio / Swimming Success
Llongyfarchiadau i Jack (Bl 1) ar ennill ei dystysgrif nofio 50m. Mae nofio 50m yn tipyn o gamp Jack sy'n gofyn am ddyfalbarhad a chryn dipyn o ffitrwydd. Da iawn ti a dal ati! / Congratulations to Jack (Yr 1) on being awarded his 50m swimming certificate. Swimming 50m is quite an achievement Jack and requires perseverance and considerable fitness. Well done and keep up the good work! (23/5/14)
Seren Pêl-droed / Football Star!
Da iawn Casey (Bl 1) ar ennill tlws pêl-droed yn dilyn tymor llwyddiannus o chwarae pêl-droed i'w dîm lleol. Da iawn ti! / Well done Casey (Yr 1) on being awarded a football medal following a suuccessful season playing for his local team. Well done Casey! (23/5/14)
LLongyfarchiadau i chi am gyrraedd y rownd genedlaethol. Fe ddylech chi fod yn falch iawn o'ch perfformiad wrth chwarae yn erbyn rhai o dimau gorau Cymru.
Congratulations for reaching the National Primary Schools finals. You should be very proud of your performance whilst playing against some of the best teams in Wales.
Y canlyniadau
Bryn y Mor 3 - Mynydd Cynffig 6
Bryn y Mor 3 - Bryn Coch 6
Bryn y Mor 2 - Melin Gruffudd 4
Bryn y Mor 5 - Clytha Primary 2
Bryn y Mor 11 - Crickhowell 0
Bryn y Mor 14 - Rhys Pritchard 4
Bryn y Mor 5 - Rydal Penrhos 4
Llwyddiant Nofio / Swimming success
Llongyfarchiadau i Zagros (Bl 1) a Caitlyn (Bl 1) ar ennill eu tystysgrifau 20m yn y pwll nofio yr wythnos hon. Da iawn chi! / Congratulations to both Zagros (Yr 1) and Caitlyn (Yr 1) on being awarded their 20m swimming certificates this week. Well done both! (16/5/14)
Masgot Hawliau / Rights Mascot
Llongyfarchiadau i Harry Wills-Jones ar ennill y gystadleuaeth creu masgot parchu hawliau Ysgol Gymraeg Bryn y Môr. Dewiswyd y masgot buddugol - Harry Hawliau, gan blant y cyngor ysgol a bydd Harry (y masgot hynny yw!) i'w weld o gwmpas yr ysgol yn atgoffa'r disgyblion o'u hawliau nhw o dan Confensiwn y Cenhedloedd Unedig. / Congratulations to Harry Wills-Jones on winning the competition to create Ysgol Gymraeg Bryn y Môr's new rights respecting mascot. The winning creation - Harry Hawliau (Rights Harry) was chosen by the school council and will be displayed around the school to remind pupils of their rights under the United Nations Convention. (16/5/14)
LLwyddiant Nofio / Swimming Success
Llongyfarchiadau i Eva (Bl 2) ar ennill ei thystysgrif Cam 3 yn y pwll nofio ac i Archie (Bl 4) ar ennill ei dystysgrif 200m - tipyn o gamp! Da iawn i'r ddau ohonoch chi. / Congratulations to Eva (Yr 2) on being awarded her Stage 3 swimming certificate and to Archie (Yr 4) on being awarded his 200 certificate - quite an achievement! Well done to both of you. (9/5/14)
Llwyddiant Gymnasteg / Gymnastics Success
Llongyfarchiadau i Lily (Bl 2) ar ennill medal gymnasteg am ei hymroddiad yn y gampfa yn ddiweddar - dal ati Lily! / Congratulations to Lily (Yr 2) on winning a gymnastics medal for her efforts in the gym recently - keep up the good work Lily! (9/5/14)
Medal Rygbi / Rugby Medal
Da iawn Arun (Bl 2) ar ennill medal rygbi yn ddiweddar am chwarae mor dda i dîm rygbi Swansea Uplands mewn twrnamaint ym Mhenybont. Da iawn ti! / Well done Arun (Yr 2) on winning a medal recently whilst playing for Swansea Uplands rugby team in a tournament in Bridgend. Well done! (9/5/14)
Y Gerdd Fawr / The Big Poem
Llongyfarchiadau i ddosbarth Mrs Williams - Bl 2, ar glywed bod eu cerdd dosbarth nhw wedi cael ei ddewis gan Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru, i'w gynnwys yn 'Y Gerdd Fawr' sy'n cael ei gyhoeddi ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd dros y Sulgwyn. Da iawn Bl 2! / Congratulations to Mrs Williams' class - Yr 2, on hearing that their class poem has been chosen by Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru, to be included in 'The Big Poem' which will be announced at the Urdd National Eisteddfod over Whitsun. Well done Yr 2! (2/5/14)
Llwyddiant nofio! / Swimming success!
Llongyfarchiadau i Manon (Derbyn) ar ennill ei thystysgrif nofio 5m yn ddiweddar. Da iawn Manon a chofia mai'r camau cyntaf (neu strôciau) yw'r rhai pwysicaf. / Congratulations to Manon (Reception) on being awarded her 5m swimming certificate recently. Well done Manon and remember, those first steps (or strokes) are the most important! (2/5/14)
Pencampwr Rygbi! / Rugby champion!
Llongyfarchiadau i Conor (Bl 2) ar ennill medal rygbi am sgorio cais i'w dîm, Swansea Uplands, dros y penwythnos. Da iawn ti Conor! / Congratulations to Conor (Yr 2) on winning a rugby medal for scoring a try for his team, Swansea Uplands, over the weekend. Well done Conor! (2/5/14)
Nofio fel pysgodyn! / Swimming like a fish!
Llongyfarchiadau i Osian (Bl 1) ar ennill ei dystysgrif 100m yn y pwll nofio - tipyn o gamp Osian! Da iawn ti! / Congratulations to Osian (Yr 1) on being awarded his 100m certificate in the pool - quite an achievement Osian! Well done! (2/5/14)
Gweithdy Eifftaidd / Egyptian workshop
Da iawn Belle (Bl 1) ar ennill tystysgrif Prifysgol y Plant am fynychu gweithdy Eifftaidd yn ddiweddar. Da iawn ti! / Well done Belle (Yr 1) on being awarded a Children's University certificate for attending an Egyptology workshop recently. Well done! (2/5/14)
Llwyddiant Nofio / Swimming Success
Llongyfarchiadau i Manon a Megan (Derbyn) ar ennill dystysgrifau nofio am eu hymdrechion yn y pwll yn diweddar. Mae'r ddwy yn ymarfer yn gyson ac yn rhoi o'u gorau glas yn eu gwersi. Da iawn chi! / Congratulations to Manon and Megan (Reception) on being awarded swimming certificates for their efforts in the pool recently. Both girls practice regularly and give 100% effort in their lessons. Well done both! (4/4/14)
Cartio Campus! / Great Karting!
Da iawn Zagros (Bl 1) ar ennill fedal cartio ym mharti penblwydd ei ffrind yn ddiweddar. / Well done Zagros (Yr 1) on winning a karting medal at a friend's recent birthday party. (4/4/14)
Brenhines y Ddawns! / Dancing Queen!
Llongyfarchiadau i Megan (Bl 2) ar ennill Bencampwriaeth Ddawns Stryd yr UDO yn Pontins yn ddiweddar gyda'i pherfformiad yng nghystadleuaeth y Ddeuawd. Roedd Megan hefyd yn aelod o'r group enillodd y gystadleuaeth ddawns tîm. Sgôr o 10 gan y beirniaid dwi'n meddwl Megan!/ Congratulations to Megan (Yr 2) on winning the UDO Street Dance Championships in Pontins recently with her performance in the Duet competition. Megan was also a member of the group which came second in the team dance. It's a 10 from the judges Megan! (21/3/14)
Cam 2 Nofio / Stage 2 Swimming
Llongyfarchiadau mawr i Ffion (Bl 1) ar ennill ei thystysgrif Cam 2 yn y pwll nofio yr wythnos hon. Y camau cyntaf yw'r pwysicaf Ffion - da iawn ti! / Congratulations to Ffion (Yr 1) on being awarded her Stage 2 swimming certificate this week. The first stages are the most important Ffion - well done you! (21/3/14)
Llwyddiant Nofio / Swimming Success
Llongyfarchiadau i Loti (Bl 4), Sara (Derbyn) a Hannah (Derbyn) ar lwyddo mewn campau amrywiol yn y pwll nofio dros yr wythnos diwethaf. Da iawn i'r dair ohonoch chi - daliwch ati! / Congratulations to Loti (Yr 4), Sara (Reception) and Hannah (Reception) on succeeding with various exploits in the swimming pool this week. Well done to all three of you - keep up the good work! (14/3/14)
Llwyddiant teuluol! / Family success!
Llongyfarchiadau mawr i Jake (Bl 3) a'i chwaer Brooke (Derbyn) ar ennill tystysgrifau cyrhaeddiad Gymnasteg yr wythnos hon. Mae'r ddau yn gweithio'n galed ac yn rhoi o'u gorau glas bob wythnos yn eu gwersi yn y gampfa - da iawn chi! / Congratulations to Jake (Yr 3) and his sister Brooke (Reception) on being awarded achievement certificates in Gymnastics this week. Both work hard and give 100% in their weekly lessons at the gym - well done both! (14/3/14)
Cerddor Ifanc y Flwyddyn! / Young Musician of the Year!
Llongyfarchiadau mawr i Elin (Bl 4) ar gael ei henwi yn Gerddor Ifanc y Flwyddyn gan Glwb Rotari Abertawe. Enwebwyd Elin am ei dawn arbennig gyda'r ffidil a'r piano sy'n deillio o oriau o ymarfer. Da iawn ti Elin! / Congratulations to Elin (Yr 4) on being named Young Musician of the Year by Swansea Rotary Club. Elin was nominated for her exceptional ability with both the violin and piano, which clearly comes from many hours of practice. Well done Elin! (7/3/14)
Prysur yn y Pwll! / Busy in the pool!
Mae nifer o ddisgyblion yr ysgol wedi bod yn brysur iawn yn y pwll nofio yn ddiweddar gyda thystysgrifau a bathodynnau di-ri i'w gweld yn ein gwasanaethau. Llongyfarchiadau mawr i Tomos, Caitlin, Lauren a Belle (Bl 1) a Grace (Bl 2) ar ennill amrywiol wobrau ac am eu hymrechion. Da iawn i chi gyd! / A number of the school's pupils have been extremely busy of late with numerous certificates and badges to be seen in our assemblies. Congratulations to Tomos, Caitlin, Lauren and Belle (Yr 1) and Grace (Yr 2) for being awarded these awards and for their efforts. Well done to each and every one of you! (7/3/14)
Llwyddiant Jiwdo / Judo Success
Llongyfarchiadau i Sonny (Bl 2) ar gael ei enwebu yn gystadleuydd ifanc y flwyddyn gan ei glwb jiwdo. Mae ymarfer wythnosol a'r dyfalbarhad yn talu ffordd! Da iawn Sonny! / Congratulations to Sonny (Yr 2) on being nominated young competitor of the year by his judo club. Weekly practice and perseverance pays off! Well done Sonny! (7/3/14)
Torri gwallt i Gancer! / Cutting hair for Cancer!
Bydd Madison (Bl 2) yn torri 7 modfedd o'i gwallt ar Ddydd Gwyl Ddewi i godi arian i'r 'Little Princess Trust', elusen sy'n cefnogi merched ifanc sydd yn dioddef o gancer. Da iawn ti Madison, rwyt ti'n ddewr iawn! / Madison (Yr 2) will be cutting off 7 inches of her hair on St David's Day in order to raise money for the 'Little Princess Trust' which supports young girls with cancer. Well done Madison, you're very brave! (21/2/14)
Llwyddiant Nofio! / Swimming Success!
Llongyfarchiadau i Casey (Bl 1) ar ennill ei dystysgrif nofio 5m, Conor (Bl 2) ar ennill ei dystysgrif 15m ac Efa (Bl 1) ar ennill ei thystysgrif 50m yr wythnos hon. Da iawn i bob un ohonoch chi! / Congratulations to Casey (Yr 1) on being awarded his 5m swimming certificate, Conor (Yr 2) on his 15m certificate and Efa (Yr 1) on her 50m certificate. A fantastic achievement by all three! (21/2/14)
Cerddorion Ifanc Abertawe / Swansea's Young Musicians
Llongyfarchiadau i Carys (Bl 6), Anna ac Elin (Bl 4), Dafydd (Bl 3) a Tomos (Bl 2) am gymryd rhan a serennu yng Ngŵyl Cerddorion Ifanc Abertawe yn Theatr y Grand a Neuadd y Brangwyn yn ddiweddar. Doniau disglair i'w gweld ar y piano, ffidil a'r recorder. Da iawn i chi gyd!/ Congratulations to Carys (Yr 6), Anna & Elin (Yr 4), Dafydd (Yr 3) and Tomos (Yr 2) on taking part and starring in the recent 'Abertawe Festival of Young Musicians' at the Grand Theatre and Brangwyn Hall. Exceptional talent on the piano, violin and recorder. Well done each of you! (14/2/14)
Syllwyr Sêr! / Star Gazers!
Llongyfarchiadau i Alice a Rosie (Bl 4) ar ennill eu bathodynnau 'Star Gazers' yn Brownies yr wythnos hon. / Congratulations to Alice & Rosie (Yr 4) on being awarded their 'Star Gazers' badges in Brownies this week. (14/2/14)
Bathodyn Blue Peter arbennig! / A very special Blue Peter badge!
Pan gafodd ei thadcu trawiad ar ei galon yn ddiweddar, pwyllodd Ruby (Bl 2), cyn hysbysu ei mam o'r sefyllfa, helpu i ffonio 999 a chefnogi ei mam tra'n aros i'r ambiwlans i gyrraedd. Am ei dewrder, cyflwynwyd bathodyn Blue Peter iddi. Da iawn ti Ruby! / When her Grandfather suffered a heart-attack recently, Ruby (Yr 2) didn't panic ac many would, but calmly informed her mother of what was happening, helped dial 999 and supported her mother whilst waiting for the ambulance to arrive. For her bravery, she has been awarded a Blue Peter badge. Well done Ruby! (7/2/14)
Hyfforddwr yr Wythnos / Trainer of the Week
Llongyfarchiadau i David (Bl 4) ar ennill y darian 'Hyfforddwr yr Wythnos' gan Glwb Pêl-droed Sandfields. Da iawn ti David am ddangos cymaint o awydd a brwdfrydedd! / Congratulations to David (Yr 4) on being awarded the 'Trainer of the Week' shield by his local football team, Sansfields FC. Well done David for showing such eagerness and enthusiasm! (7/2/14)
Llwyddiannau Nofio / Swimming Success
Mae plant Ysgol Gymraeg Bryn y Môr wedi bod yn brysur iawn yn y pwll nofio yn ddiweddar, gyda nifer o dystysgrifau wedi cael eu cyflwyno yn ein gwasanaeth. Llongyfarchiadau i Megan & Isabelle (Derbyn) ar gyrraedd eu bathodyn 5m ac Oliver (Derbyn) ar gyrraedd ei fathodyn 25m. Arbennig! / Ysgol Gymraeg Bryn y Môr pupils have been busy in the swimming pool of late, with a number of certificates being awarded in our assembly. Congratulations to Megan & Isabelle (Reception) on achieving their 5m badges and to Oliver (Reception) on achieving his 25m badge. Fantastic! (7/2/14)
Gwobr Efydd yr Afancod! / Beavers Bronze Award!
Hyfryd yw clywed bod Jake (Bl 3) wedi cael ei wobrwyo gyda Gwobr Efydd y Prif Sgowt gan yr afancod am ei ymdrechion yn ddiweddar. Mae Jake yn mwynhau ei amser gyda'r afancod ac nawr yn anelu am ei wobr nesaf. Da iawn ti! / It's wonderful to hear that Jake (Yr3) has been awarded the Chief Scouts Bronze Award by his Beavers Group for his efforts recently. Jake enjoys his time with the Beavers and is now aiming for his next award. Well done Jake! (31/1/14)
Bob y Bildar? / Bob the Builder?
Mae Ieuan (Bl 2) wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn adeiladu blychau planhigion yn B&Q fel rhan o'r gyfres 'building masterclass'. Da iawn ti Ieuan. Os oes angen rhywun i wneud 'odd-jobs' yn eich tŷ chi, i chi'n gwybod pwy i gysylltu â! / Ieuan (Yr2) has been busy building planter boxes as part of the B&Q 'building masterclass' recently. Well done Ieuan. If you have any odd-jobs that need doing, you know who to contact! (31/1/14)
Llwyddiant Nofio / Swimming Success
Llongyfarchiadau i Jenson (Bl 2) ar ennill ei dystysgrif nofio 400m. Mae 400m yn cryn dipyn o bellter Jenson - da iawn ti ar dy lwyddiant! / Congratulations to Jenson (Yr 2) on being awarded his 400m swimming certificate. 400m is a considerable distance Jenson - well done you! (31/1/14)
Bathodyn Brownies / Brownies Badge
Llongyfarchiadau i Freya (Bl 3) ar ennill ei bathodyn Cerddoriaeth yn ei grŵp Brownies yn ddiweddar. Mae Freya yn aelod fyddlon o'r grŵp ac yn rhoi 100% i bob agwedd. / Congratulations to Freya (Yr3) on being awarded her Music badge by her Brownies group recently. Freya is a faithful member of the group and always gives 100% in every aspect. (31/1/14)
Pencampwraig Nofio! / Swimming Champion!
Llongyfarchiadau mawr i Sian (Bl 4) ar ennill y fedal Efydd yn y ras broga yng Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd. Gyda nofwyr gorau Cymru yn bresenol, perfformiodd Sian yn wych, a braf oedd ei gweld hi'n wen o glust i glust gyda'i pherfformiad. Mae'r ysgol yn browd iawn ohoni! / Congratulations to Sian (Yr 4) on winning the Bronze medal in the breaststroke at the Urdd National Swimming Finals in Cardiff. With the best swimmers in Wales in attendance, Sian performed exceptionally well, and it was wonderful to see her beaming smile at the end of the final race. The school is extremely proud of her!
Bathodyn Blue Peter!
Yn dilyn ei ymdrechion yn y môr ar ddydd Calan i godi arian i 'Maggie's Cancer Centre' (manylion isod) mae Noah (Bl 6) wedi cael ei wobrwyo gyda Bathodyn Blue Peter. Llwyddodd Noah i godi bron £300 i'r elusen arbennig hon ac hyfryd yw gweld y cymeradwyaeth mae'n ei dderbyn. / Following his efforts in the sea on New Year's Day to raise money for Maggie's Cancer Centre, Noah (Yr 6) has been awarded a Blue Peter Badge. Noah managed to raise almost £300 on the day and it's great to see him receiving recognition for this great achievement. (24/1/14)
Camau Cyntaf Nofio / First Steps in Swimming
Llongyfarchiadau i Maggie (Dosbarth Derbyn) ar ennill bathodyn a thystysgrif Gradd 1 gyda'i sgiliau nofio cynnar. Y camau cyntaf yw'r rhai mwyaf pwysig ac mae Maggie wedi llwyddo i ddechrau ar ei thaith - da iawn ti! / Congratulations to Maggie (Reception class) on being awarded her Grade 1 badge and certificate for early swimming skills. The first steps are the most important steps and Maggie has succeeded in starting her journey - well done you! (24/1/14)
Doniau Cerddorol! / Musical Talents!
Llongyfarchiadau mawr i Anna (Bl 4), Elin (Bl 4) a Williams (Bl 6) ar basio eu arholiadau Gradd 1 ar y piano. Tipyn o gamp! Daliwch ati i ymarfer yn ddafal wrth i chi anelu am Radd 2. / Congratulation to Anna (Yr 4), Elin (Yr 4) and William (Yr 6) on passing their Grade 1 piano exams. Quite an achievement! Keep up the good work in practicing consistently as you aim for your Grade 2. (17/1/14)
Sgiliau Dŵr / Water Skills
Llongyfarchiadau i Jack (Bl 1) ar ennill ei dystysgrif Sgiliau Dŵr - Gradd 1 ac am ei ddyfalbarhad yn y pwll nofio. Dal ati Jack! / Congratulations to Jack (Yr 1) on being awarded his Water Skills certificate - Grade 1, and for persevering in the swimming pool. Keep up the good work Jack! (17/1/14)
Gwobr Dewrder! / Bravery Award!
Mae'r tywydd wedi bod yn ofnadwy o oer yn ddiweddar ond gwnaeth hynny ddim atal Noah (Bl 6) rhag ddangos ei ddewrder wrth blymio mewn i'r mor yn Saundersfoot ar Ddydd Calan yn ei 'Onesie' Despicable Me! Dewr iawn Noah! Da iawn ti am dy ymdrechion. / The recent weather has been extremely cold, but that didn't prevent Noah (Yr 6) from displaying his bravery by diving into the sea at Saundersfoot on New Year's Day in his Despicable Me 'Onesie'! Very brave Noah! Well done for your efforts. (10/1/14)
Arlunydd o fri / Prestigous artist
Llongyfarchiadau mawr i Lauren (Bl 1) ar ennill y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth arlunio Tesco dros y Nadolig. Am ei hymdrechion i lunio dyn eira hyfryd, gwobrwywyd Lauren gyda taleb am £10. Da iawn ti Lauren! / Many congratulations to Lauren (Yr 1) on winning first prize in Tesco's art competition over Christmas. For her efforts in drawing a wonderful snowman, Lauren was persented with a £10 voucher. Da iawn ti Lauren! (10/1/14)
Presenoldeb Perffaith! / Perfect Attendance!
Llongyfarchiadau mawr i'r 63 disgybl sydd wedi llwyddo mynychu'r ysgol pob diwrnod yn ystod y tymor hwn - 100%! Tipyn o gamp. Daliwch ati dros y tymor nesaf. / Congratulations to the 63 pupils who managed to attend school every single day this term - 100%! A considerable achievement. Now to keep this going into next term! (20/12/13)
Jujitsu a Gymnasteg! / Jujitsu & Gymnastics
Mae Ashleigh (Bl 4) wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar! Llwyddodd i gyrraedd Gradd 5 yn ei gymnasteg yn ogystal ag ennill gwobr 'disgybl mwyaf addawol' yn ei chlwb Jujitsu. Da iawn ti! Dau Weetabix neu tri Ashleigh? / Ashleigh (Yr 4) has been a very busy girl of late! She succeeded in achieving Grade 5 in her gymnastics in addition to being awarded 'most promising pupil' in her Jujitsu club. Well done you! Two Weetabix or three Ashleigh? (20/12/13)
Nofio hyderus / Confident swimming
Llongyfarchiadau i Anna Mai (Bl 2) ar ennill ei thystysgrif a bathodyn 20m yn y pwll nofio yn ddiweddar. Da iawn ti a dal ati! / Congratulations to Anna Mai (Yr 2) on being awarded her 20m swimming certificate and badge recently. Well done and keep up the good work! (20/12/13)
Afanc prysur iawn! / A very busy Beaver!
Mae Dylan (Bl 3) wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar tra'n mynychu clwb Beavers, gyda nifer o fathodynnau yn cael eu cyflwyno iddo. Da iawn ti! / Dylan (Yr 3) has been extremely busy with his Beavers club of late, with a number of badges being awarded to him for his efforts. Well done Dylan! (20/12/13)
Karate Kid!
Llongyfarchiadau mawr i Teegan (Bl 4) ar ennill medal a thystysgrif 'disgybl mwyaf addawol' ei chlwb karate eleni. Da iawn ti! / Congratulations to Teegan (Yr 4) on being awarded a certificate and medal for 'most promising pupil' in her karate club this year. Well done! (20/12/13)
Llwyddiannau pellach yn y pwll! / Further success in the pool!
Cafodd nifer o blant eu cymeradwyo yr wythnos hon am lwyddo yn y pwll nofio. Cyrhaeddodd Lewis (Bl 1), Seren (Bl 1 ) ac Osian (Derbyn) diwedd Cam 1, Matilda (Bl 1) Cam 2 a Rebecca (Bl 2) Cam 3 yng nghynllun nofio Kellogs. Yn ogystal, cyrhaeddodd Loti (Bl 3) gradd 4 yn ei phrawf sgiliau dŵr. Canmolwyd Gracie (Bl 2), Cameron (Bl 2 ) & Oliver (Bl 1) am nofio mor dda yng ngala nofio Siarcod Abertawe yr wythnos hon hefyd. Da iawn i chi gyd am eich hymdrechion! / A number of pupils were praised this week for their accomplishments in the pool. Lewis (Yr 1), Seren (Yr 1) and Osian (Reception) achieved Stage 1, Matilda (Yr 1) achieved Stage 2 and Rebecca (Yr 2) achieved Stage 3 in the Kellogs Swim Scheme. Loti (Yr 3) also did well in achieving Grade 4 in her Water Skills test. Gracie (Yr 2), Cameron (Yr 2) and Oliver (Yr 1) were also praised for doing so well at the recent Swansea Sharks swimming gala. Well done to you all! (6/12/13)
Dawns Stryd! / Street Dance!
Llongyfarchiadau mawr i Megan (Bl 2) am lwyddo yng nghystadleuaeth unigol a chystadleuaeth pâr ym mhancampwriaeth Daws Stryd yr UDO yn ddiweddar. Da iawn ti Megan! / Congratulations to Megan (Yr 2) on her recent success in both individual and pair competitions at the UDO Street Dance championships. Well done Megan! (29/11/13)
Llwyddiant yn y pwll! Success in the pool!
Da iawn Clara ac Osian (Bl 1) ar lwyddo i ennill tystysgrifau a bathodynau nofio 20m a 25m yn ddiweddar. Mae'r ddau yn ymarfer yn wythnosol ac wrthi yn barod yn gweithio tuag at gyrraedd y lefel nesaf. Dyfalbarhewch! / Well done to both Clara and Osian (Yr 1) on being awarded swimming certificates and badges for 20m and 25m respectively. Both practice on a weekly basis and are already aiming for the next level. Keep up the good work! (29/11/13)
Bathodyn Blue Peter! / Blue Peter Badge!
Llongyfarchiadau i Molly (Bl 6) ar ennill bathodyn gwyn 'Blue Peter' am ysgrifennu darn o farddoniaeth hyfryd sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y rhaglen deledu i blant. Da iawn ti Molly! / Congratulations to Molly (Yr 6) on being awarded her white 'Blue Peter' badge for writing some wonderful poetry which has been commended by the children's television programme. Well done Molly! (29/11/13)
Mascots yn y Gêm Fawr! / Mascots in the Big Match!
Llongyfarchiadau mawr i Joseff (Bl 4) a'i chwaer Efa (Bl 1) ar gael eu dewis fel mascots yng ngêm fawr yr Elyrch neithiwr yn erbyn Valencia. Er gwaethaf y canlyniad, roedd y profiad o sefyll o flaen cynulleidfa o filoedd yn un bythgofiadwy! / Congratulations to Joseff (Yr 4) and his sister Efa (Yr 1) on being chosen as mascots for last nights match between the Swans and Valencia. Although the result was disappointing, the thrill of standing before a crowd of thousands will live long in the memory! (29/11/13)
Nofio fel pysgodyn! / Swimming like a fish!
Llongyfarchiadau i Ffion (Bl 2) ar lwyddo yn ei hasesiad nofio 10m yn ddiweddar. Y camau cyntaf yw'r camau pwysicaf - da iawn ti Ffion! / Congratulations to Ffion (Yr 2) on succeeding in her 10m swimming assessment recentyl. The first steps are the most important steps - well done Ffion! (15/11/13)
Seren y Gem / Man of the Match
Da iawn i Jac (Bl 4) ar gael ei enwi yn 'Seren y Gem' wrth gynrychioli Clwb Rygbi Waunarlwydd yn ddiweddar. / Well done Jac (Yr 4) on being awarded 'Man of the Match' recently whilst representing Waunarlwydd RFC. (25/10/13)
Strictly Come Dancing?
Llongyfarchiadau i Jessie (Bl 4) ar ennill amrywiaeth o fedalau yng Ngwŷl Ddawns Dewi Sant. Dangosodd ei doniau mewn nifer o ddawnsfeydd gan gynnwys tap ddawns a bale. Da iawn ti! / Congratulations to Jessie (Yr 4) on winning a variety of medals at the St Davids Festival of Dance. She showcased her dancing prowess with a variety of dance routines, including tap and ballet. Well done! (25/10/13)
Pencampwyr y Pwll! / Swimming Champions!
Llongyfarchiadau i Libby (Bl 6) ar ennill medal arian ac efydd & Sian (Bl 4) ar ennill 3 x medal aur, 1 x medal arian a 2 x fedal efydd yng nghystadleuaeth nofio gyda Swim Swansea. Da iawn ferched! / Congratulations to Libby (Yr 6) on winning both a silver and bronze medal & Sian (Yr 4) on winning 3 x gold medals, 1 x silver medal and 2 x bronze medals at a swimming competition with Swim Swansea. Well done girls! (25/10/13)
Bathodyn Blue Peter / Blue Peter Badge!
Dydy Blue Peter ddim yn dosbarthu bathodynnau i bawb a phobun, ond anrhydeddwyd Maddie (Bl 6) yn ddiweddar yn dilyn ei hymdrechion llwyddiannus i godi £200 i'r Teenage Cancer Trust. Rwyt ti'n gardedig iawn Maddie - da iawn ti. / Being awarded a Blue Peter badge is quite a challenge but Maddie (Yr 6) has succeeded in being awarded a badge in recognition of her success in raising £200 for the Teenage Cancer Trust. You're very kind Maddie - well done! (25/10/13)
Carati Campus! / Cool Karate!
Llongyfarchiadau i Keira, Blwyddyn 3, ar ennill ei gwregys coch carati yn ddiweddar. Rhaid dyfalbarhau nawr i ymarfer a gweithio'n galed er mwyn ennill y wregys nesaf, sef melyn. Cer amdani Keira! / Congratulations to Keira, Year 3, on being awarded her red belt in karate recently. She will now persevere with her traing and hard work to reach the next belt, which is yellow. Go for it Keira! (4/10/13)
Llwyddiant Nofio / Swimming Success
Llongyfarchiadau i Sophia, Blwyddyn 4, ar gyrraedd Lefel 3 Brogaod yn y Pwll Nofio. Mae'r gallu i nofio yn hyderus yn bwysig iawn felly dal ati Sophia! / Congratulations to Sophia, Year 4, on reaching Level 3, Pool Frogs with her swimming. The ability to swim confidently is very important, so keep up the good work Sophia! (23/9/13)
Llwyddiant Cerddorol / Musical Success
Llongyfarchiadau i Elin, Blwyddyn 4, ar lwyddo yn ei arholiad Gradd 3 ar y ffidil. Mae'r oriau o ymarfer a'r dyfalbarhad yn amlwg yn talu ffordd. Da iawn ti Elin! / Congratulation to Elin, Year 4, on succeeding in her Grade 3 violin examination. All the hours of practice and perseverance are clearly paying dividends. Well done Elin! (13/9/13)
Dwli ar Ddarllen! / Love to Read!
Da iawn Freya - Blwyddyn 3, ar gael ei chyflwyno gyda thystysgrif darllen o'r llyfrgell lleol. Llwyddodd i ddarllen 6 llyfr dros gwyliau'r Haf - tipyn o gamp! Da iawn ti a dal ati i ddarllen! / Well done Freya - Year 3, on being awarded a certificate of achievement for reading at the local library. Freya succeeded in reading 6 books over the Summer holidays - quite an achievement! Well done and keep up with the reading! (13/9/13)