Syniad mawr y tymor hwn yw:
This term’s big idea is:
Rydyn ni wedi bod yn dysgu am ddathliadau traddodiadol y Flwyddyn Newydd Gymreig - Y Calennig a'r Fari Lwyd.
We have been learning about traditional Welsh New Years celebrations - The Calennig & The Fari Lwyd.
Mae gwersi ffidil wythnosol Blwyddyn 3 yn mynd yn dda iawn! Byddwn yn dechrau dysgu darn newydd yn barod i’w berfformio yn Eisteddfod yr ysgol felly cofiwch ddod â’ch ffidil i mewn bob dydd Mercher ac i ymarfer gartref!
Mae'r daflen gerddoriaeth a'r trac cefndir ar gael ar HWB. 🎻
Year 3’s weekly violin lessons are going very well! We will be starting to learn a new piece ready to perform in the school’s Eisteddfod so please remember to bring in your violins every Wednesday and practise at home!
The music sheet and backing track are available on HWB. 🎻
Cawsom ddiwrnod gwych yn dathlu Dydd Miwsig Cymru ym mlwyddyn 3 ar Chwefror 2il!
Dyma rai o’n hoff ganeuon Cymraeg… 🏴🎤❤️🎶
We had a fantastic day celebrating Welsh Language Music Day in year 3 on February 2nd!
Here are a few of our favourite Welsh songs… 🏴🎤❤️🎶
Rydyn ni wedi bod yn greadigol iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf yn ymgorffori’r cymeriadau amrywiol o’r stori Pedr a’r Blaidd ac yn actio’r stori gyda’r gerddoriaeth. Y cymeriadau yw: Taid, Pedr, yr helwyr, y blaidd, y gath, yr aderyn a'r hwyaden. Allwch chi ddyfalu pa gymeriadau mae pob grŵp yn eu portreadu?
👨🦳👦💂🐺🐈🕊🦆
We have been very creative the past few weeks embodying the various characters from the story Peter and the Wolf and acting out the story with the music. The characters are: Grandfather, Peter, the hunters, the wolf, the cat, the bird and the duck. Can you guess which characters each group are portraying?
👨🦳👦💂🐺🐈🕊🦆
Cawsom ddiwrnod hyfryd yn dathlu Dewi Sant ar Fawrth y 1af ac yn ystyried beth mae ei neges bwysig o ‘wneud y pethau bychain’ yn ei olygu i ni.
🏴
We had a lovely day celebrating Saint David on March the 1st and considering what his important message of ‘doing the little things’ means to us.
🏴
Mae blwyddyn 3 wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn dysgu chwarae ‘Lawr ar lan y môr’ ar y ffidil ar gyfer ein heisteddfod ysgol ar Fawrth yr 16eg. Da iawn Blwyddyn 3! Mae adnoddau ar gael ar Hwb felly gwnewch yn siwr i ddal ati i ymarfer gartref hefyd! 👏❤️🎻
Year 3 have been working very hard learning to play ‘Lawr ar lan y môr’ on the violin for our school Eisteddfod on March the 16th. Well done Blwyddyn 3! Resources are available on Hwb so make sure to continue practising at home too! 👏❤️🎻
Cafodd pawb amser arbennig yn Llyfrgell Ganolog Abertawe! Mwynheuon ni daith o amgylch y llyfrgell, stori wych a gêm llythrennedd hwyliog er mwyn ddarganfod y gair hud! Diolch yn fawr iawn i Mrs Williams am drefnu’r daith ar gyfer CC3 fel rhan o’n dathliad Diwrnod y Llyfr a‘r rhieni a ddaeth i helpu ni heddiw. 😁📚👍
A fantastic time was had by all in Swansea Central Library! We enjoyed a tour of the library, a brilliant story and a fun literacy game in order to discover the magic word! Big thanks to Mrs Williams for arranging the trip for PS3 as part of our World Book Day celebration and
the parents who came to help us today. 😁📚👍
Yn ystod ein hymchwiliad ar brynhawn dydd Iau, gallem weld, clywed a theimlo bod sain yn cael ei gynhyrchu gan ddirgryniadau! Fe wnaethom ddysgu pan fyddwch yn lleihau faint y gall offeryn ddirgrynu eich bod yn lleihau faint o sain y mae'n ei gynhyrchu, a bod y sain yn stopio pan fydd yr offeryn yn stopio dirgrynu. 👩🔬🧑🔬
During our investigation on Thursday afternoon, we could see, hear and feel that sound is produced by vibrations! We learned that when you reduce the amount an instrument can vibrate you reduce the amount of sound it produces, and that the sound stops when the instrument stops vibrating. 👩🔬🧑🔬
Rydym wedi cael llawer o hwyl yn gwrando ar a chanu i rai o'n hoff ganeuon a sgorau ffilm yn cael eu chwarae'n fyw! Diolch yn fawr i Orion ar y gitâr ac Oriana ar y ffidil.
🎻👏🎸
We’ve had lots of fun listening and singing along to some of our favourite songs and film scores being played live! Big thanks to Orion on guitar and Oriana on violin. 🎻👏🎸
Rydym wedi mwynhau yn fawr cyflwyniad addysgiadol a difyr gan y Triawd Pres Cymreig! 🎺🏴👏
We have thoroughly enjoyed an informative and entertaining presentation by the Welsh Brass Trio! 🎺🏴👏
Rydym wedi ysgrifennu negeseuon a cherddi hyfryd ar gyfer Sul y Mamau. Ansoddeiriau a threiglo gwych Blwyddyn 3! 💐💝
We’ve written some lovely messages and poems for Mother’s Day. Brilliant adjctives and mutating year 3! 💐💝